BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ynni Diwydiannol

A wyddoch chi y gallech leihau eich costau ynni gymaint ag 20% trwy fabwysiadu mesurau
rhwydd na fydd o bosibl yn costio dim?

Gall y daflen ffeithiau hon eich helpu i ganfod y meysydd lle gallwch arbed arian ac ynni
yn yr amgylchedd diwydiannol. Gall y newidiadau hyn hefyd helpu i wella amodau gweithio,
felly bydd pawb ar eu hennill.

Mannau lle mae llawer o ynni’n cael ei wastraffu

A hoffech chi wybod lle mae dechrau arbed ynni? Mae’r siart defnyddiol hwn yn rhoi syniad
da o fannau i gadw golwg arnynt. Y prif fannau i gadw llygad arnynt yw: cyfarpar sy'n cael ei redeg ar beiriannau trydan, gwres a golau, boeleri a stem, ac aer cywasgedic.

Gwres a golau: 22%
Prosesau cyffredinol: 23%
Peiriannau trydan: 20%
Aer cywasgedig: 10%
Boeleri a stêm: 15%
Eraill (gan gynnwys trafnidiaeth): 10%

Cyfarpar sy’n cael ei Yrru gan Drydan

A wyddoch chi fod peiriant 11kW yn gallu defnyddio mwy na £2,500 o drydan y flwyddyn? Gall gwneud newidiadau bach i’r ffordd mae peiriannau trydan yn cael eu rhedeg arbed ynni ac arian:

  • Diffodd offer os nad yw’n cael ei ddefnyddio. Mae pobl sy’n gadael peiriannau i redeg tra byddant yn mynd am eu cinio neu ar ôl gorffen eu shifft yn taflu arian i ffwrdd. Weithiau bydd staff yn credu bod angen gadael peiriant i redeg ar gyfer proses, neu hyd yn oed bod gwneud hynny’n fwy effeithlon. Dylech arddangos gwybodaeth os yn briodol sy’n tynnu sylw at yr angen i ddiffodd peiriant, pwmp neu ffan.
  • Anelwch yn uwch. Ystyriwch osod peiriannau mwy effeithlon ar gyfarpar, a fydd yn talu amdanynt eu hunain gyda’r ynni a arbedir. Mae’r technolegau mwyaf effeithlon ar y farchnad i’w gweld ar y Rhestr Technoleg Ynni
  • Gyrwyr cyflymder amrywiol (VSD). Mae’r rhain yn ddyfeisiadau sy’n amrywio cyflymder  cyfarpar sy’n cael eu gyrru gan beiriannau, yn ôl y galw am ynni. Ffannau a phympiau yw’r defnydd gorau ar gyfer VSD. Gall lleihau cyflymder peiriant 20% leihau’r galw am bŵer hyd at 50% ac, felly, gellir arbed ynni. 

Aer Cywasgedig

Gallai aer cywasgedig sy’n gollwng trwy un twll 3mm gostio tua £600 y flwyddyn. Felly mae’n werth gwneud yn siŵr bod eich cyfarpar mewn cyflwr da.

  • Trwsio gollyngiadau. Archwiliwch eich system aer cywasgedig yn rheolaidd a naill ai gwrandewch am aer yn dianc, neu huriwch offer canfod gollyngiadau sydd ar gael yn rhad.
  • Diffoddwch y system os nad oes ei hangen. Mae system aer cywasgedig arferol yn costio tua £15,000 y flwyddyn i’w rhedeg ond mae llawer o gwmnïau’n gwastraffu 30% o hyn trwy gadw’r cywasgydd ymlaen pan nad oes ei angen.
  • Peidiwch a dibynnu gormod ar aer cywasgedig. Defnyddiwch offer a chyfarpar sy’n cael eu gyrru â thrydan pan fydd hynny’n bosibl — mae’n gwastraffu llai o ynni ac yn arbed arian.

Boeleri a Stêm

A wyddoch chi y gallai system stêm sy’n gollwng gostio tua £15,000 y flwyddyn? Cadwch olwg ar wres a stêm trwy ddilyn y mesurau canlynol:

  • Gwiriwch y system yn rheolaidd. Gall boeler nad yw’n cael ei gynnal a’i gadw wastraffu 30% mewn gwres a gollir. Dylech ei wirio’n rheolaidd a chadwch olwg am yr arwyddion canlynol: pibelli’n gollwng, olion llosgi ar y boeler a’r ffliw, a sŵn uchel o bympiau a llosgwyr.
  • Gorchuddiwch. Gallai insiwleiddio gwael gyfrif am 10% o’ch bil stêm neu wresogi. Gwnewch yn siŵr bod yr holl bibelli’n cael eu hinsiwleiddio.
  • Cadwch yn oer. Gwiriwch dymheredd y stêm sydd ei angen ar gyfer pob proses unigol a defnyddiwch stêm ar y tymheredd isaf posibl bob amser.
  • Cadwch olwg am ollyngiadau. Bydd gollyngiad yn y system stêm yn eithriadol o gostus. Dylech ei gwirio’n rheolaidd a gwneud yn siŵr bod unrhyw ollyngiad yn cael ei drwsio ar unwaith.

Gwres a Golau

Gallwch arbed 10% o’ch costau gwresogi a 15% o’ch costau goleuo trwy ddilyn y mesurau syml canlynol:

  • Atal gwres rhag dianc. Gwnewch yn siŵr bod eich adeilad wedi’i insiwleiddio’n dda, yn enwedig y to, i leihau faint o wres sy’n dianc o’r adeilad. 
  • Trowch i lawr. A wyddoch chi fod modd arbed hyd at 8% ar eich biliau gwresogi am bob gostyngiad o 1°C yn y tymheredd? 19-21°C yw’r tymheredd a argymhellir ar gyfer gwaith eisteddog mewn ffatrïoedd, ond gall fod yn is mewn warysau neu lle mae gwaith mwy corfforol yn cael ei wneud.
  • Diffoddwch. Gwnewch yn siŵr bod y gwres wedi’i ddiffodd pan nad oes neb yn yr adeilad, naill ai dros nos neu ar benwythnosau. Gwnewch yn siŵr bod amseryddion gwresogyddion wedi’u gosod yn gywir i adlewyrchu oriau gweithio.
  • Cadwch ar gau. Pan na fyddant yn cael eu defnyddio, cadwch ddrysau’r ffatri a’r baeau ar gau i atal gwres rhag dianc. Ystyriwch osod stribedi drafftiau neu agorwyr awtomatig os yw drysau’n cael eu hagor yn aml. 
  • Diffoddwch. Gall diffodd goleuadau mewn mannau nad ydynt yn cael eu defnyddio arwain at arbedion o tua 15% ar gostau goleuo eich safle. Gallech hefyd ystyried synwyryddion sy’n canfod presenoldeb pobl mewn mannau fel storfeydd a choridorau.
  • Newidiwch i LED. Y goleuadau gorau ar y farchnad ar hyn o bryd yw rhai LED, sy’n cynnig golau mwy llachar, gwell dewis o liwiau ac oes hwy. Trwy newid golau fflwroleuol, halogen a fflwroleuol am LED, gallwch arbed ynni. Mae’n ddigon cyffredin i weld gostyngiad o fwy na 50% yn yr ynni a defnyddir ar ôl cyfnewid golau traddodiadol am rai LED.  

Am ragor o wybodaeth am olau a gwres, gweler yr Arweiniad i Wresogi a’r Arweiniad i Oleuo.

Gweithredwch

Dechreuwch arbed ynni heddiw
Gwnewch aelod o staff neu dîm bychan yn gyfrifol am fwrw ymlaen â mesurau arbed ynni, fel y rhain:

  1. Darganfyddwch faint rydych yn ei wario ar ynni. Bydd hyn yn rhoi ffigur cychwynnol i chi i fonitro llwyddiant unrhyw fesur arbed ynni. 
  2. Gwiriwch brosesau, gwresogi a rheolyddion oeri i wneud yn siŵr eu bod wedi’u gosod ar dymereddau, cyflymderau ac amseroedd priodol. 
  3. Paratowch restr o fesurau cadw tŷ da, gan gynnwys camau syml fel diffodd goleuadau a chyfarpar. Gellid arddangos y rhain yn y swyddfa i atgoffa staff o’u cyfrifoldebau.
  4. Lluniwch restr gwirio ynni. Cerddwch o gwmpas eich adeilad, a lluniwch restr wirio i ganfod lle mae modd arbed ynni. Mae rhestr wirio enghreifftiol ar gael yn ein Better Business Guide.
  5. Dechreuwch godi ymwybyddiaeth heddiw. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ddigon o bosteri a sticeri a fydd yn symbylu eich staff i gymryd mesurau camau syml i arbed ynni. 

Am ragor o wybodaeth am reoli ynni, gweler y daflen ffeithiau systemau rheoli ynni.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.