BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ynni manwerthu

Arbedwch ynni a byddwch un cam o flaen y gystadleuaeth. 

Os ydych am fod gam o flaen y gystadleuaeth, bydd angen i chi gadw golwg ar eich faint
eich elw. Ond a ydych chi wedi edrych faint o ynni ydych chi’n ei ddefnyddio? Bydd y
daflen ffeithiau ymarferol hon yn eich helpu i arbed ynni ym mhob maes. Y canlyniadau? Gallech arbed hyd at 20% ar gost eich ynni.

Mannau lle mae ynni'n cael ei wastraffu

A hoffech chi wybod lle mae dechrau arbed ynni yn y swyddfa? Mae’r siart hwn yn rhoi
syniad da o fannau i gadw golwg arnynt. Y prif feysydd y dylech edrych arnynt yw: gwresogi, goleuo ac oeri. 

Gwresogi ac oeri: 45%
Goleuo: 35%
Oeri ac arlwyo: 12%
Dŵr poeth: 3%
Cyfarpar trydanol eraill: 5%

Gwresogi 

A wyddoch chi fod gwresogi ac oeri’n gallu cyfrif am hyd at 45% o’r ynni a ddefnyddir mewn amgylchedd manwerthu? Felly mae cyfle mawr i arbed. Dyma rai pwyntiau sy’n werth eu hystyried:

  • Atal gwres rhag dianc. Gwiriwch fod eich to wedi’i insiwleiddio’n dda ac nad oes dim drafftiau o gwmpas drysau a ffenestri, i leihau faint o wres sy’n dianc o’r adeilad. 
  • Diffoddwch. Yn yr haf efallai na fydd angen i’r holl foeleri fod ymlaen. Os oes gennych chi sawl boeler, mae’n debygol bod un llai sydd wedi’i fwriadu i gyflenwi dŵr poeth yn unig, sy’n golygu y gallwch ddiffodd y lleill.
  • Gosodwch system reoli. Bydd cynhesu eich siop pan fydd yn wag yn treulio eich boeler ac yn cynyddu costau ynni. Defnyddiwch system rheoli amser a thymheredd i sicrhau nad yw’ch adeilad yn cael ei gynhesu pan fydd yn wag. Mae’ch adeilad yn debygol o gadw gwres am ryw awr ar ôl diffodd y gwres, felly gallwch osod y gwres fel y bydd yn diffodd cyn diwedd y dydd.
  • Trowch i lawr. Yn ystod y misoedd oer bydd eich cwsmeriaid yn teimlo’n anghyfforddus os yw eich siop yn rhy boeth. Bydd cyflenwi lifrau cynhesach i staff yn golygu y gallwch droi’r gwres i lawr ac annog cwsmeriaid i dreulio mwy amser yn eich siop. Yn well na dim, bydd gostwng y tymheredd 1°C yn golygu y byddwch yn defnyddio 8% yn llai o ynni. 

Am wybodaeth fwy manwl am wresogi gweler daflen ar gwresogi

Goleuo

Er bod goleuo’n hanfodol mewn canolfannau manwerthu, gall gyfrif am rhwng 20% a 60% o gyfanswm y costau ynni. Dyma rai meysydd allweddol sy’n werth eu hystyried:

  • Gwneud defnydd da o olau naturiol: Nid yw’n costio dim a gall olygu gostyngiad o 15% yn eich costau goleuo. Os nad yw’r golau dydd yn ddigon i ddibenion arddangos, rhowch y golau ymlaen yn ystod oriau masnachu’n unig.
  • Newid i LED Y goleuadau gorau ar y farchnad ar hyn o bryd yw rhai LED, sy’n cynnig golau mwy llachar, gwell dewis o liwiau ac oes hwy. Trwy newid golau fflwroleuol, halogen a fflwroleuol am LED, gallwch arbed ynni. Mae’n ddigon cyffredin i weld gostyngiad o fwy na 50% yn yr ynni a defnyddir ar ôl cyfnewid golau traddodiadol am rai LED.  
  • Gosodwch system reoli: Byddai siop lle mae staff glanhau a diogelwch yn gweithio’n hwyr yn elwa ar synwyryddion sy’n adnabod presenoldeb pobl. Mae’r rhain yn cynnau’r golau yn awtomatig pan fo rhywun yn y gofod ac yn eu diffodd ar ôl i’r ystafell fod yn wag am gyfnod. Gall synwyryddion arwain at arbedion o hyd at 50% ar gostau goleuo ac maent yn arbennig o ddefnyddiol mewn: 
    • Ystafelloedd stoc a storfeydd.
    • Toiledau.
    • Ystafelloedd cyfarfod.
    • Mannau sy’n cael eu goleuo fesul parth.

Am ragor o wybodaeth am oleuo, gweler yr arweiniad i oleuo.

Cyfarpar Oeri 

Gall costau oeri gyfrif am hyd at 50% o gostau ynni siopau. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i dorri costau:

  • Peidiwch a gorlenwi. Mae gormod o nwyddau ar y silffoedd angen mwy o ynni i’w cadw’n oer.
  • Mae aer oer yn suddo. Mae aer oer o oergelloedd sy’n agor yn y blaen yn suddo i’r llawr a’ch i’ch siop. Mae hyn yn golygu bod y peiriannau’n treulio mwy o amser yn oeri. Gall gosod llenni neu orchuddion dros nos arbed hyd at 30% o’ch costau rhedeg. Ystyriwch ddefnyddio cabinetau gyda drysau os yn bosibl.
  • Diffoddwch. Os ydych chi’n storio nwyddau nad ydynt yn rhai darfod, mewn oergelloedd, dylech ystyried eu diffodd pan fydd y siop ar gau. Dylid diffodd y goleuadau arddangos yn y cabinetau hefyd.

Oeri ac Awyru 

Gall aerdymheru fod yn ddrud iawn, felly mae’n gwneud synnwyr i’w gadw o dan reolaeth i wneud arbedion sylweddol:

  • Gosodwch y tymheredd yn gywir. Mae gosodiadau is yn defnyddio mwy o ynni i oeri. Gosodwch y tymheredd ar gyfer aerdymheru ar 24°C neu uwch. Mae hyn yn golygu na fydd yn gweithio ar yr un pryd â’r system wresogi, felly ni fyddwch yn talu ddwywaith.
  • Diffoddwch. Gwnewch yn siŵr bod ffannau a phympiau’n cael eu diffodd os nad ydynt yn cael ei defnyddio, gan mai’r rhain sy’n defnyddio’r rhan fwyaf o’r ynni mewn systemau aerdymheru. Gellir lleihau costau’n sylweddol trwy sicrhau nad ydynt yn gweithio y tu allan i oriau agor. Gall gosod amseryddion syml helpu.

Gweithredwch

Dechreuwch arbed ynni heddiw
Gwnewch aelod o staff neu dîm bychan yn gyfrifol am fwrw ymlaen â mesurau arbed ynni, fel y rhain:

  1. Darganfyddwch faint rydych yn ei wario ar ynni. Bydd hyn yn rhoi ffigur cychwynnol i chi i fonitro llwyddiant unrhyw fesur arbed ynni. 
  2. Gwiriwch y systemau gwresogi ac oeri i wneud yn siŵr eu bod yn dilyn yr un patrwm â’ch oriau agor. 
  3. Paratowch restr o fesurau cadw tŷ da, gan gynnwys camau syml fel diffodd goleuadau mewn mannau staff.
  4. Lluniwch restr wirio ynni. Cerddwch o gwmpas eich adeilad, a chwblhewch restr wirio ar wahanol adegau o’r dydd (gan gynnwys ar ôl oriau) i ganfod lle gellir gwneud arbedion.
  5. Dechreuwch godi ymwybyddiaeth heddiw. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ddigon o bosteri a sticeri a fydd yn symbylu eich staff i gymryd mesurau camau syml i arbed ynni. 

Am ragor o wybodaeth am reoli ynni, gweler systemau rheoli ynni.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.