BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ynni Swyddfeydd

A wyddoch chi y gallwch chi leihau costau ynni hyd at 20% trwy fabwysiadu mesurau syml na fydd o reidrwydd yn costio dim?

Gall y daflen ffeithiau hon eich helpu i ganfod y meysydd hynny lle gallwch arbed arian ac ynni yn y swyddfa. Gall y newidiadau hyn hefyd wella amodau gweithio, felly bydd pawb
ar eu hennill.

Mannau lle mae ynni’n cael ei wastraffu

A hoffech chi wybod lle mae dechrau arbed ynni yn y swyddfa? Mae’r siart hwn yn rhoi
syniad da o fannau i gadw golwg arnynt. Y prif feysydd y dylech edrych arnynt yw:
aerdymheru, gwresogi, cyfarpar swyddfa a goleuo. 

Gwresogi, oeri a dŵr poeth: 45%
Goleuo: 22%
Cyfarpar swyddfa: 18%
Offer trydanol arall: 10%
Arlwyo: 5%

Aerdymheru

Gall aerdymheru ddyblu costau ynni eich swyddfa, felly dylid meddwl yn ofalus cyn ei ddefnyddio. Dyma rai pwyntiau i’w cadw mewn cof:

  • Un ar y tro. Dylech osgoi oeri a chynhesu eich swyddfa ar yr un pryd. Gallwch wneud hyn trwy osod y system aerdymheru i beidio â dod ymlaen nes bydd y tymheredd yn cyrraedd 24°C er enghraifft, a gosod eich system wresogi i ddiffodd pan fydd y tymheredd yn codi’n uwch na 19°C. Mae gosod “band marw’ yn gwella effeithlonrwydd trwy sicrhau nad yw’r systemau cynhesu ac oeri’n gweithio ar yr un pryd.
  • Cynnal a chadw cyfarpar oeri. Mae’n hanfodol bod hyn yn cael ei wneud yn rheolaidd, gan y bydd yr ynni a ddefnyddir yn cynyddu’n sylweddol os oes unrhyw nam ar y system. I sicrhau bod eich system aerdymheru’n gweithio ar ei gorau, dylech drefnu ymweliadau rheolaidd gan beiriannydd cynnal a chadw. 

Gwresogi

Mae gwresogi’n cyfrif am gyfran fawr o gyfanswm eich bil ynni, felly mae modd gwneud arbedion sylweddol:

  • Atal gwres rhag dianc. Gwiriwch fod eich to wedi’i insiwleiddio’n dda ac nad oes dim drafftiau o gwmpas drysau a ffenestri, i leihau faint o wres sy’n dianc o’r adeilad. 
  • Troi i lawr. A wyddoch chi fod troi eich gwres i lawr gyn lleied ag 1°C yn gallu golygu gostyngiad o tua 8% yn eich bil bob blwyddyn? Y tymheredd a argymhellir ar gyfer gwaith swyddfa yw 21–23°C. 
  • Cadwch ar gau. Dylid osgoi agor drysau a ffenestri pan fydd gwres neu aerdymheru ymlaen. Os yw’n rhy boeth, rhowch wybod i’r sawl sy’n gyfrifol am y system wresogi, yn hytrach nag agor ffenestr. Wedyn bydd modd addasu’r gwresogi neu’r oeri fel y bydd yn fwy cyfforddus.

Am wybodaeth fwy manwl am wresogi, gweler yr Arweiniad i Wresogi. 

Cyfarpar Swyddfa

Cyfarpar swyddfa yw un o’r meysydd sy’n defnyddio ynni sy’n tyfu gyflymaf. Dyma nifer o gamau syml y gallwch eu cymryd i leihau costau:

  • Defnyddiwch y nodweddion arbed ynni. Mae’r rhain wedi’u cynnwys yn y rhan fwyaf o gyfarpar swyddfa, gan gynnwys cyfrifiaduron, monitorau, peiriannau ffacs ac argraffwyr, felly gwneud yn siŵr eu bod yn weithredol. 
  • Diffoddwch. Bydd amserydd saith diwrnod syml ar gyfarpar a rennir, fel argraffwyr, peiriannau gwerthu ac oeryddion dŵr, yn sicrhau nad ydynt yn cael eu cadw ymlaen dros nos ac ar benwythnosau. Mae’r rhain yn gymharol rad i’w prynu a gallant arbed hyd at 70% ar gostau ynni.

Golau

A wyddoch chi fod golau’n aml yn cyfrif am tua 15% - 25% o fil trydan swyddfa? Y newyddion da yw bod modd lleihau’r gost trwy:

  • Wneud defnydd da o olau dydd naturiol. Nid yw’n costio dim, a gall leihau eich costau goleuo hyd at 20%. 
  • Ymwybyddiaeth ymhlith staff. Mae hyn yn allweddol i leihau costau. Dylid annog staff i ddiffodd goleuadau pa bryd a lle bynnag nad oes eu hangen. Bydd hyn yn helpu i leihau bil trydan y swyddfa.
  • Newid i LED. Y goleuadau gorau ar y farchnad ar hyn o bryd yw rhai LED, sy’n cynnig golau mwy llachar, gwell dewis o liwiau ac oes hwy. Trwy newid golau fflwroleuol, halogen a fflwroleuol am LED, gallwch arbed ynni. Mae’n ddigon cyffredin i weld gostyngiad o fwy na 50% yn yr ynni a defnyddir ar ôl cyfnewid golau traddodiadol am rai LED.  

Am ragor o wybodaeth am olau a gwres, gweler yr Arweiniad i Wresogi a’r Arweiniad i Oleuo.

Gweithredwch 

Dechreuwch arbed ynni heddiw

  1. Gwnewch aelod o staff neu dîm bychan yn gyfrifol am fwrw ymlaen â mesurau arbed ynni, fel y rhain:
  2. Darganfyddwch faint rydych yn ei wario ar ynni. Bydd hyn yn rhoi ffigur cychwynnol i chi i fonitro llwyddiant unrhyw fesur arbed ynni. 
  3. Gwiriwch y systemau rheoli gwres ac oeri i wneud yn siŵr eu bod wedi’u gosod ar dymereddau priodol. 
  4. Paratowch restr o fesurau cadw tŷ da, gan gynnwys camau syml fel diffodd goleuadau a chyfarpar. 
  5. Lluniwch restr wirio ynni. Cerddwch o gwmpas eich swyddfa, a chwblhewch restr wirio ar wahanol adegau o’r dydd (gan gynnwys amser cinio ac ar ôl oriau gwaith) i ganfod lle mae modd arbed ynni. 
  6. Dechreuwch godi ymwybyddiaeth heddiw. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni ddigon o bosteri a sticeri a fydd yn symbylu eich staff i gymryd mesurau camau syml i arbed ynni. 

Am ragor o wybodaeth am reoli ynni, gweler yr daflen systemau rheoli ynni.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.