Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi

 

Rôl y Cyngor yw cynghori Llywodraeth Cymru ar ystod eang o faterion er mwyn helpu i sbarduno ymchwil, cydweithio a hwyluso arloesedd fel y bo modd datrys yr heriau mwyaf sy’n ein hwynebu a helpu gyda’r gwaith o gyflawni yn unol â’r nodau a bennwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. 

Strategaeth Arloesi newydd wedi'i lansio er mwyn creu Cymru Gryfach, Decach a Mwy Gwyrdd

Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus ‒ dyna'r genhadaeth sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru.