Yn ôl elusen a chanolfan ddysgu gymunedol fach o Gwm Nedd, torri’r patrwm a mynd ati i ddefnyddio technoleg ddigidol sydd wedi’i galluogi i oroesi.

 

Mae Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli, dysgu, addysg a chymorth i helpu pobl yn y gymuned leol i wella eu sgiliau, ac mae’r galw am wasanaethau'r ganolfan wedi cynyddu yn sgil y newidiadau y mae wedi’u gwneud.

 

Man stood next to brick wall

 

Mae technoleg ddigidol wedi bod yn allweddol

 

Mae Malcolm Scott, cydlynydd dysgu'r ganolfan, yn credu bod agwedd y ganolfan at dechnoleg ddigidol wedi bod yn allweddol – nid yn unig er mwyn goroesi, ond er mwyn ffynnu hefyd yn y trydydd sector, sy’n gallu bod yn heriol.

 

Mae marchnata ar gyfryngau cymdeithasol a newidiadau i’r wefan wedi arwain at fwy o ymholiadau, ac mae cyflwyno systemau e-bost a CRM yn y cwmwl wedi galluogi’r ganolfan hyfforddi i weithio’n fwy effeithlon.

 

Mae defnydd cynyddol Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd o dechnoleg ddigidol yn torri’r patrwm a welir ymysg elusennau eraill ar hyd a lled y DU. Yn ôl Mynegai 2017 Banc Lloyds o Allu Digidol Busnesau, dydy un o bob tair elusen ddim yn credu bod presenoldeb ar-lein yn berthnasol iddyn nhw, a does gan 52 y cant ddim sgiliau digidol sylfaenol.

 

Dywedodd Malcolm: “Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i bobl Cwm Nedd, ac roedden ni’n sylweddoli bod angen i ni addasu a bod yn agored i syniadau newydd os oedden ni eisiau i hynny barhau.

 

Rydyn ni’n gallu cyrraedd mwy o bobl yn sgil cyfryngau cymdeithasol

 

“Fe aethon ni i weithdy Cyflymu Cymru i Fusnesau, a chawsom sesiwn ddilynol un i un gyda chynghorydd i gael cyngor pwrpasol. Cawsom anogaeth a help i fynd ati ar unwaith, ac mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr.

 

“Er enghraifft, roedden ni wedi rhoi cynnig ar gyfryngau cymdeithasol o’r blaen, ond ar ôl y gweithdy a chael cyngor, fe aethon ni ati i greu tudalen Facebook newydd gan ddilyn y canllawiau i wneud yn siŵr ei bod yn effeithiol. Rydyn ni wedi cael mwy o ymholiadau yn sgil hynny. Hefyd, rydyn ni wedi gwneud y wefan yn haws ei defnyddio, ac felly mae mwy o bobl yn cysylltu â ni.

 

“Mae cyfryngau cymdeithasol wedi arbed miloedd o bunnau i ni o ran argraffu a rhannu taflenni, a oedd yn gost enfawr i ni. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i ni gyrraedd mwy o bobl a thargedu marchnadoedd newydd mewn ffyrdd newydd sbon.

 

Rydyn ni hefyd yn anfon cylchlythyr chwarterol drwy MailChimp, a gallwn edrych ar yr ystadegau i weld faint sy’n ei ddarllen.

 

Mae prosesau cyfathrebu wedi gwella’n aruthrol

 

“Un o argymhellion eraill Cyflymu Cymru i Fusnesau oedd defnyddio system CRM yn y cwmwl, yn ogystal ag Office 365 a SharePoint i storio ffeiliau a negeseuon e-bost, er mwyn i staff allu cael gafael ar wybodaeth y tu allan i’r swyddfa. Rydyn ni’n cyfathrebu’n well o lawer o fewn y sefydliad yn sgil integreiddio’r feddalwedd hon yn ein dulliau gweithredu.”

 

Cafodd Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd – sy’n cyflogi 18 o bobl – ei sefydlu’n wreiddiol yn ystod streic y glowyr yn 1984, er mwyn rhoi cyfleoedd i fenywod ddysgu sgiliau newydd ar gyfer byd gwaith.

 

Mae’r ganolfan yn cynnig pob math o gyfleoedd hyfforddi i bawb erbyn hyn, ac mae’n dibynnu ar arian grant yn bennaf, yn ogystal â’i gwaith codi arian ei hun. Mae’r ganolfan yn bwriadu datblygu ei gwasanaeth rhentu ystafell er mwyn ceisio cynyddu incwm yr elusen.

 

Ychwanegodd Malcolm: “Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda darparwyr addysg lleol, fel Prifysgol Abertawe, y Brifysgol Agored a cholegau sy’n cynnal sesiynau yma. Bydd hefyd yn cael sylw ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ein cylchlythyr, er mwyn annog busnesau’r ardal i ystyried defnyddio ein cyfleusterau i gynnal cyfarfodydd â chleientiaid, cynadleddau ac ymarferion meithrin tîm.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen