Nid oes y fath beth â chynllun – neu gacen – wedi hanner grasu, i’r gacenwraig Caroline Davies. 

Yn 2015 penderfynodd Caroline sefydlu busnes, Confectionery and Training, i werthu ei chacennau a chynnal cyrsiau addysg yn ei chymuned leol yng Nghaerffili. 

 

Fodd bynnag, yn ystod cyfnod ansicr dros y cyfnod clo, penderfynodd Caroline roi hwb digidol i’w busnes gan droi at gynnal ei chyrsiau ar-lein a chwilio am gyfleoedd i e-fasnachu. 

Ar adeg pan oedd yn anodd dod o hyd i gynhwysion a dysgu wyneb yn wyneb wedi’i atal am y tro, gofynnodd Caroline am gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau i ddysgu mwy am ddigidol.  

Ar ôl gweld hysbysebion o gymorth am ddim ar Facebook, penderfynodd Caroline gofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau ar-lein, gan ddweud: “Roedd gen i wefan a thudalen fusnes Facebook yn barod ond gwyddwn y gallwn wneud llawer mwy gyda busnes ar-lein.  

“Penderfynais gofrestru mewn sesiynau ar sut i ddefnyddio Facebook ac Instagram i dyfu busnes, ynghyd â sesiwn ragarweiniol ar Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO).  

Roedd y cyrsiau’n ddefnyddiol ac rwy’n teimlo mod i wedi dysgu tipyn. Roedd rhai pethau gyda fy ngwefan nad oeddwn yn eu hoffi ond na allwn eu newid oherwydd y llwyfan lletya.  

“Ar gyngor Cyflymu Cymru i Fusnesau, penderfynais dalu datblygwr i ail-greu fy ngwefan ar WordPress ac mae’n llawer gwell. Mae’r perfformiad yn well, fel y gallaf arddangos fy musnes fel y mynnaf.  

“Rwyf hefyd wedi dechrau defnyddio Instagram ac yn edrych ar fathau newydd o gynnwys i’w rannu, fel fideos ar gyfer Reels.” 

Gan gydnabod y gallai cyfleoedd e-fasnach ddatblygu mwy ar ei busnes, bydd Caroline yn lansio blwch tanysgrifio misol gan anfon cynhwysion sych ac un darn o gyfarpar hanfodol at bobwyr brwd, ynghyd â cherdyn rysáit a mynediad at grŵp Facebook preifat lle y bydd cyngor, fideos a sesiynau byw’n cael eu rhannu.    

 

Meddai Caroline: “Rwy’n gwerthu fy nghacennau’n bennaf drwy Facebook i gwsmeriaid lleol a ffyddlon a chyn y pandemig roeddwn yn cynnal cyrsiau diogelwch bwyd yn Ysgol y Coed Duon gerllaw – roedd fy nghwsmeriaid mewn ardal eithaf bach.  

“Drwy gynnal fy nghyrsiau ar-lein a chynnig blwch tanysgrifio misol drwy’r post, byddaf yn gallu denu cwsmeriaid o bellach draw. 

“Ers ailfeddwl am y cynnwys rwy’n ei roi ar Facebook ac Instagram, a diweddaru’r wefan, rwyf eisoes wedi sylwi fy mod yn derbyn mwy o ymholiadau.  

“Mae cwsmeriaid newydd wedi holi am wneud cacen at achlysur a mwy o ddiddordeb yn fy nghyrsiau – rwyf am ail-afael mewn addysgu wyneb yn wyneb fel rhan o amserlen hybrid, ond gan barhau i gynnal rhai sesiynau rhithiol drwy Zoom.” 

Yn ogystal â chofrestru ar gyfer nifer o gyrsiau ar-lein, mae Caroline wedi cynnal sesiwn adolygu un-i-un gyda chynghorydd Cyflymu Cymru i Fusnesau a awgrymodd sut y gallai dyfu mwy ar ei busnes Cacennau a Hyfforddiant.  

Ychwanegodd Caroline:

“Roedd yr adroddiad yn agoriad llygad. Roedd yn cadarnhau fy marn am fy ngwefan wreiddiol ac rwyf wedi gwneud y newidiadau a awgrymwyd i fy ngwefan WordPress newydd, fel lanlwytho lluniau o ansawdd uchel, arddangos fy ngwasanaeth mewn ffordd glir, ac ychwanegu blog. 

“Wyddwn i ddim llawer am SEO cyn gofyn am gymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau. Nid oedd y wefan yn perfformio’n dda ar Google a’r cynnwys ar y we ddim yn optimal o ran geiriau allweddol.   

“Ers gwella’r cynnwys a’r copi ar y wefan, rwy’n defnyddio offer dadansoddi i fonitro unrhyw dwf.   

“Mae’n dipyn o waith, diweddaru’r wefan a’r proffiliau cymdeithasol, ac yn anodd cyrraedd tudalen gyntaf Google, ond fi’n gwybod mod i ar y trywydd iawn nawr.” 

Mae presenoldeb ar-lein Caroline ar y ffordd i ddod â busnes newydd iddi, gyda phroffil Google My Business newydd a nifer o adolygiadau pum-seren.  

 

Meddai: “Rwy’n gacenwraig gofrestredig gyda chymwysterau ac yswiriant, a chynnyrch o safon uchel. Efallai y gallwch brynu cacen yn rhatach yn rhywle arall, ond mae pobl yn dychwelyd am yr ansawdd.  

“Mae’r cymorth digidol gan Cyflymu Cymru i Fusnesau wedi helpu i arddangos fy musnes mewn ffordd sy’n dweud fy mod yn gacenwraig broffesiynol gyda chynnyrch a gwasanaeth gwych. 

“Mae rhai diwrnodau’n brysur iawn ac eraill yn dawelach – dyna natur y busnes. Ar y diwrnodau llai prysur, rwy’n canolbwyntio nawr ar farchnata a sut i ennyn diddordeb dilynwyr ar-lein.   

“Bwriadaf barhau i weithio ar SEO fy ngwefan a defnyddio llawer mwy o gynnwys fideo. Byddaf yn ffilmio sesiynau arddangos ac yn eu gwerthu drwy’r wefan, sy’n opsiwn e-fasnach arall a awgrymwyd yn adroddiad Cyflymu Cymru i Fusnesau. 

“Rwyf wedi cofrestru i dderbyn e-byst cylchlythyr wythnosol Busnes Cymru sydd wastad yn llawn o gyngor. Rwy’n dal i ddysgu pethau newydd o’r cyngor hwn ac mae’r athrawon a’r cynghorwyr i gyd yn gyfeillgar a chroesawus gan wneud i mi deimlo y gallwn ofyn unrhyw gwestiwn.   

“Byddwn yn annog busnesau bach eraill i fanteisio ar y cymorth am ddim.” 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen