Marchnad Lafur Cymraeg

Mae prosiect Marchnad Lafur Cymraeg am greu ymgysylltiad rhwng sectorau a chwmnïoedd sydd â’r potensial o ddatblygu gwasanaethau a chynhyrchion sydd yn adeiladu ar sgiliau ieithyddol y Gymraeg. Trywydd cyfochrog fydd sbarduno yn ogystal weithgarwch gyda golwg ar adnabod cyfleoedd newydd mewn marchnadoedd newydd. Nod y prosiect fydd datblygu’r Gymraeg fel catalydd economaidd fyddai’n gyfrwng i ddatblygu ac adfywio y Gymru wledig wrth weithredu pethau newydd ymysg sectorau a chwmnïau targed. Yn sgil hynny, gellid adnabod cyfleoedd a galw am wasanaethau Cymraeg, neu’r cyfle i ehangu gwasanaethau Cymraeg. Bydd hyno ganlyniad, yn arwain at rannu cyfleusterau a chyfnewid gwybodaeth ac arbenigedd ym maes gwaith a hyfforddiant.

Bydd buddsoddiad yn y prosiect yma yn galluogi adnabod yn y lle cyntaf gwmnïoedd y gellir eu dwyn ynghyd yn glystyrau o fewn sectorau penodol sydd â’r potensial i gyfrannu at gyfleoedd o fewn y farchnad lafur Cymraeg. Mi fydd y clystyrau hyn yn arwain at rwydweithiau maes o law, gan gynnwys cyrff cynghori ac ymchwil. Gall y rhwydweithiau yma fod yn fodd i rannu gwybodaeth ac arbenigedd ymysg y clystyrau er mwyn cefnogi cydweithio ar gynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Mae sefydlu ymyriad o’r natur yma yn galluogi i’r sector Gymraeg y potential i gyfrannu at wireddu amcanion y rhaglen ac yn dwyn manteision ieithyddol ac economaidd ar y cyd. Amcan clir sydd wedi amlygu ei hun mewn adroddiadau a pholisiau diweddar. Cynllun peilot arloesol, mewn partneriaeth gyda Mentrau Iaith Cymru yw a fyddai’n medru arwain at broses o ddatblygu integredig ehangach a chynhwysfawr.


 

Project details

Funding amount:
£167,831
Funding source:
Co-Operation Scheme
Area:
Ceredigion
Completion:

Contact:

Name:
Four Communications Ltd
Telephone number:
01970636400
Email project contact
Project website:
http://www.welshgamemeat.wales/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts