BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardal Fenter Canol Caerdydd

Ardal Fenter Canol Caerdydd

Ardal fusnes 56.7 o hectarau (140 o erwau) yng nghanol prifddinas Cymru, Caerdydd − y brifddinas agosaf i Lundain ond sydd â gorbenion is o lawer. 

Mae Ardal Fenter Canol Caerdydd yn ardal fusnes 140 erw (56.7 hectar) yng nghanol y brifddinas agosaf i Lundain, gyda gorbenion llawer is.

  • Y brifddinas agosaf i Lundain, ond gyda chostau cyflogau a rhent swyddfeydd Graddfa A sy’n is o lawer.
  • Band eang cyflym, cost isel drwy’r gyfnewidfa rhyngrwyd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.
  • Sylfaen boblogaeth fawr o fewn pellter cymudo.
  • Canolfan trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng nghanol yr Ardal.
  • Llywodraeth gefnogol, ddatganoledig ac awdurdod lleol rhagweithiol.
  • Ymleolwch ochr yn ochr â busnesau sy’n flaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol fel Legal and General, SKY, RBS, Deloitte, a’r BBC.
  • Seilwaith cyfleustodau cydnerth.
  • Canolfannau data lleol a diogel, gan gynnwys Canolfan Data Haen 3.
  • Tair prifysgol; tair ysgol fusnes, tair ysgol y gyfraith.
  • Sectorau allweddol: Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol, TGCh, Diwydiannau Creadigol.

Mae dynodiad Ardal Fenter Canol Caerdydd yn brawf o’n huchelgais i sefydlu Caerdydd fel prif leoliad busnes y DU ar ôl Llundain.

Mae’n uchelgais sylweddol ac rydyn ni’n deall ein rôl o ran ei gwireddu, drwy fuddsoddi mewn datblygu seilwaith ac eiddo a chydlynu hynny.

Mae bod yn feiddgar wedi talu ar ei ganfed i Gaerdydd. Mae’n ddinas flaengar sydd wedi profi gweddnewidiad ffisegol trawiadol a thwf economaidd eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf:

  • mae wedi dod yn gartref i leoliadau o safon fyd-eang fel Stadiwm Principality a Chanolfan Mileniwm Cymru, gan ei chadarnhau fel un o hoff gyrchfannau dinas twristiaid
  • mae’n cynnig amrywiaeth eang o ofod busnes o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion busnesau modern am gostau galwedigaethol cystadleuol iawn
  • mae’n cynnig cyfle i fewnfuddsoddwyr ymleoli ochr yn ochr â busnesau a sefydliadau sy’n flaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Legal and General, SKY, RBS, Deloitte, a’r BBC
  • mae’n darparu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiad a datblygiad defnydd cymysg newydd i gynyddu ymhellach yr ymdeimlad o le, bywyd ac egni sy’n bodoli yn yr Ardal yn barod

Yr ardaloedd a’r safleoedd yn Ardal Fenter Canol Caerdydd

  • Sgwâr Callaghan/Canal Parade.
  • Capital Quarter.
  • Gorsaf Caerdydd Canolog.
  • Sgwâr Canolog.
  • Cyfnewidfa Caerdydd.
  • Cei Canolog.
  • John Street.
  • Safleoedd Heol Dumballs.

Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal

  • Legal & General.
  • SKY.
  • RBS.
  • Deloitte.
  • BBC.

Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi

  • Glannau Caerdydd.
  • Porth Teigr.
  • Rhodfa Bute.
  • Glanfa'r Iwerydd.
  • Dociau Caerdydd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.