BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

 Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

Unig Ardal Fenter y DU sy’n rhan o Barc Cenedlaethol arfordirol ac un sydd â chadwyn cyflenwi ynni fedrus. Mae’r Ardal yn ymyl y Môr Celtaidd. ac mae hynny, a’r ffaith bod porthladd ynni prysuraf y DU yn yr ardal, yn cynnig mwy a mwy o gyfleoedd ym maes datblygiadau ynni gwynt ar y môr a hydrogen.

Mae treftadaeth ac amrywiaeth ac arloesedd ynni hirsefydlog ar draws amrywiaeth o sectorau wrth galon unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU.

  • Treftadaeth ynni hirsefydlog a sgiliau cysylltiedig.
  • Amrywiaeth o ofod fforddiadwy, tir a lleoedd wedi’u teilwra.
  • Cysylltiadau seilwaith uniongyrchol â’r Grid Cenedlaethol, nwy ac olew.
  • Mynediad i farchnadoedd dros y môr, ar y ffordd ac thrwy’r awyr.
  • Wedi’i lleoli wrth ymyl parthau datblygu Gwynt ar y Môr y Môr Celtaidd.
  • Yn gartref i borthladd ynni prysuraf y DU.

Sefydlwyd Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn Sir Benfro ar sail safleoedd ynni presennol a phosibl yr ardal a’r sylfaen diwydiant gysylltiedig.

Yn gartref i borthladd ynni prysuraf y DU, Aberdaugleddau, mae’r Ardal yn cynnig lleoliad deniadol i gwmnïau ynni gyda’i mynediad rhagorol at seilwaith ynni, seilwaith cadwyni cyflenwi a dosbarthu sefydledig, gweithlu medrus, a rhwydwaith o brifysgolion sydd ag arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig ag ynni.

Mae’r Ardal yn dod yn ganolfan sy’n tyfu’n gyflym ar gyfer rhai o gewri ynni adnewyddadwy’r byd, gan greu cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth a busnes drwy brosiectau mawr ynni carbon isel. Yn arbennig, mae’n datblygu ffocws cynyddol ar gynhyrchu hydrogen ac ynni morol ar sail ei lleoliad wrth ymyl parthau datblygu gwynt ar y môr ac asedau naturiol y Môr Celtaidd.

Mae parth arddangos ynni tonnau wedi cael ei sefydlu 13km (8 milltir) oddi ar arfordir Sir Benfro, gyda’r potensial i gefnogi’r gwaith o ddangos araeau tonnau â chapasiti cynhyrchu o hyd at 30MW i bob prosiect.

Heddiw, mae amrywiaeth ac arloesedd yn nodweddu’r ystod o fusnesau lleol ac mae’r Ardal yn arbennig o awyddus i gefnogi cwmnïau mewn sectorau eraill i ymleoli neu ehangu yma hefyd.

Mae unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU, Sir Benfro, yn adnabyddus fel cyrchfan i dwristiaid, ac mae ein harfordir a’n cefn gwlad godidog yn cynnig cyfleoedd i ymuno â diwydiant twristiaeth ffyniannus ac amgylchedd cyfoethog i bob math o gynhyrchwyr bwyd.

Ochr yn ochr â busnesau ynni, bwyd a thwristiaeth newydd a sefydledig a’u cadwyni cyflenwi helaeth, mae cwmnïau TGCh a gweithgynhyrchu hefyd yn ffynnu yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau.

Mae’r dirwedd amrywiol hon yn golygu bod gan y Parth amrywiaeth eang o ardaloedd a safleoedd, rhai yn gyhoeddus a rhai mewn perchnogaeth breifat, gan gynnig amrywiaeth o leoedd a chyfleoedd datblygu.

Yr ardaloedd a’r safleoedd yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau

  • Wdig.
  • Dyfrffordd y Ddau Gleddau.
  • Maes Awyr Hwlffordd/Parc Diwydiannol Llwynhelyg.
  • Parc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro.
  • Trecŵn.

Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal

  • Valero.
  • RWE.
  • Dragon LNG.
  • South Hook LNG.
  • Puffin Produce.

Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi

  • Porthladd Fferi Abergwaun.
  • Porthladd Aberdaugleddau.
  • Ystad Ddiwydiannol Parc Priordy.
  • Ystad Ddiwydiannol Thornton.
  • Safleoedd Waterston a Blackbridge.
  • Coleg Sir Benfro.
  • Canolfan Ragoriaeth Peirianneg Ynni Morol (MEECE).
  • Ardal Brofi Ynni Morol (META).
  • Parth Arddangos Sir Benfro.
  • Canolfan Sero Net RWE Penfro.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.