BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardal Fenter Glannau Port Talbot

Ardal Fenter Glannau Port Talbot

Mae treftadaeth weithgynhyrchu sydd wedi hen ennill ei phlwyf, lleoliad â chysylltiadau da, a'i phorthladd dŵr dwfn ei hun yn golygu bod yr ardal hon yn un o'r cyrchfannau busnes mwyaf hygyrch ac unigryw yng Nghymru.

Mae Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn gartref i weithlu medrus iawn ac amrywiaeth eang o sectorau. Gyda mynediad i harbwr dwfn sy’n gallu derbyn y genhedlaeth nesaf o longau cynwysyddion enfawr a chysylltiadau rheilffyrdd a ffyrdd rhagorol, dyma un o’r cyrchfannau busnes mwyaf hygyrch ac unigryw yng Nghymru.

  • Cronfa lafur sylweddol sy’n byw o fewn pellter cymudo.
  • Amrywiaeth o leoedd fforddiadwy, o adeiladau newydd o’r radd flaenaf, sy’n barod i fynd, i safleoedd datblygu mawr.
  • Datblygu sgiliau gweithgynhyrchu uwch ac ymchwil gan golegau a phrifysgolion lleol.
  • Cysylltiadau ffyrdd, porthladdoedd a rheilffyrdd lleol a chenedlaethol rhagorol.
  • Treftadaeth gweithgynhyrchu gref, technoleg a sgiliau gweithgynhyrchu blaengar.
  • Mynediad at gysylltedd dosbarth menter a dewis cynyddol o wasanaethau band eang cyflym iawn.
  • Cymorth gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol ar gyfer anghenion busnes.

Mae gan Ardal Fenter Glannau Port Talbot lawer i’w gynnig i ddarpar fuddsoddwyr – boed nhw’n fewnfuddsoddwyr, yn fusnes newydd neu’n fusnes sy’n bodoli eisoes.

Mae’r ardal yn gyforiog o dreftadaeth ddiwydiannol ac mae’n lleoliad gweithgynhyrchu o bwys gyda chryfderau ym maes Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Ynni a’r Amgylchedd a hefyd yn y sector Adeiladu.

Port Talbot yw’r ganolfan ar gyfer nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu rhyngwladol mawr, tra’n dal i gynnig digon o le, cyfleoedd a chefnogaeth i fusnesau newydd – mae seilwaith da, dynodiadau cynllunio a thirfeddianwyr cadarnhaol yn sicrhau bod y Parth yn gallu darparu ar gyfer ystod eang o fusnesau.

Mae gan Bort Talbot gryfderau sydd wedi hen ennill eu plwyf ym maes gweithgynhyrchu a chynhyrchu dur. Mae hyn wedi’i gyfuno â ffocws pendant ar barhau i ddatblygu diwydiannau arloesol o safon fyd-eang mewn sectorau fel Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, Adeiladu ac Ynni Gwyrdd.

Mae’r ardal yn elwa o ymchwil masnachol dan arweiniad y diwydiant ac mae ganddi gysylltiadau cryf â nifer o sefydliadau academaidd gan gynnwys Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Mae’r cyfuniad unigryw o ffactorau yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot, o ran lleoliad, seilwaith a’i chysylltiadau â’r economi wybodaeth, wedi denu rhai o brif wneuthurwyr y DU, gan gynnwys TATA Steel, BOC, SPECIFIC a TWI, sydd, ynghyd â llu o gwmnïau eraill sy’n hynod fedrus yn dechnegol, yn gosod sylfaen gref ar gyfer creu clwstwr deinamig ac arloesol o fusnesau. 
 

Yr ardaloedd a’r safleoedd yng Glannau Port Talbot

  • Parc Ynni Baglan.
  • Parc Diwydiannol Baglan.
  • Dociau Harbourside a Phort Talbot.

Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal

  • Tata Steel.
  • Keytree.
  • Netalogue.
  • Montagne Jeunesse.
  • RWE.

Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi

  • Tata Steel.
  • Associated British Ports.
  • Campws y Bae Prifysgol Abertawe.
  • Canolfan Dechnoleg Prifysgol Rolls-Royce ym Mhrifysgol Abertawe.
  • Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC.
  • Canolfan Dechnoleg TWI (Cymru).
  • Canolfan Ymchwil Hydrogen, Parc Ynni Baglan.
  • AGOR IP.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.