BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Pam dylech chi ddewis Ardal Fenter?

Beth bynnag sydd ei angen ar eich busnes, mae lleoli mewn Ardal Fenter yn sicrhau eich bod yn cael y cymorth gorau posibl mewn lleoliad sy'n berffaith ar gyfer twf.

Gall y cymorth hwnnw gynnwys cymorth busnes, sgiliau arbenigol neu ddigonedd o weithwyr medrus; mynediad hawdd i farchnadoedd; bod yn yr un lleoliad â chadwyn gyflenwi a chwsmeriaid eich sector; gofod pwrpasol; neu gyfuniad o'r rhain i gyd.

Bydd tîm Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eich gofynion ac yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu pecyn cymorth wedi'i deilwra ar eich cyfer, gan edrych ar yr holl faterion y mae angen eu hystyried, er mwyn hwyluso’r broses o symud eich busnes.

Yr Amgylchedd Busnes

Mae Cymru ar agor ar gyfer busnes. Yn ogystal â pherthynas gref rhwng busnesau, academyddion a'n Llywodraeth ddatganoledig, sy'n hoelio cryn sylw ar fusnes, mae Ardaloedd Menter Cymru hefyd yn cynnig sgiliau amrywiol gan weithlu teyrngar, costau cystadleuol o ran eiddo, cadwyni cyflenwi sydd wedi ennill eu plwyf a lle gwych i chi a'ch gweithlu fyw a gweithio ynddo.

A phan fyddwch yn ymuno â ni mewn Ardal Fenter, byddwch mewn cwmni da. Mae Cymru yn lleoliad a ddewiswyd gan nifer o gwmnïau rhyngwladol fel Aston Martin, Deloitte, Magnox, Continental Teves, Tata, Valero, Airbus, Minesto a’r BBC

Cymorth Busnes

P'un a ydych yn fusnes mawr sydd wedi ennill ei blwyf neu'n fusnes bach sy’n dechrau arni, bydd tîm Cymorth Busnes Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eich gofynion ac yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu pecyn cymorth wedi'i deilwra, gan edrych ar yr holl faterion y mae angen eu hystyried. 

Seilwaith sy'n Barod ar gyfer Busnesau

Mae gan bob un o'r wyth Ardal Fenter yng Nghymru gysylltiadau hawdd â rhannau eraill o'r DU, Iwerddon, tir mawr Ewrop a thu hwnt.

Mae gwahanol fathau o eiddo ar gael ym mhob un o’r Ardaloedd: gan amrywio o ofod swyddfa Gradd A i ardaloedd datblygu mawr, o unedau hybu ymchwil a datblygu i ffatrïoedd neu awyrendai y gallwch symud i mewn iddynt neu eu hadnewyddu. Ac mae caniatâd cynllunio wedi’i roi eisoes ar rai o’r safleoedd.

Lle gwych i fyw ynddo

Yn ogystal â chynnig rhai o'r amgylcheddau gorau i gynnal busnes, mae’n Hardaloedd Menter hefyd yn cynnig ffordd wych o fyw i chi a'ch gweithlu teyrngar pan fyddwch yn gadael y gwaith am y dydd.

Mae yma dirweddau mynyddig, arfordirol a gwledig di-guro, dinasoedd gwych a thri Pharc Cenedlaethol, i gyd mewn gwlad 256km (159 milltir) o hyd a 96km (59 milltir) o led − mae'r awyr agored ar garreg pob drws.

Mae hwn yn ffactor pwysig o ran lefelau cadw staff, sy’n uwch yma na chyfartaledd y DU – mae hynny’n golygu nad dim ond ffordd wych o fyw y mae Ardaloedd Menter Cymru yn ei chynnig, ond gweithlu teyrngar hefyd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.