BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardal Fenter Ynys Môn

Ardal Fenter Ynys Môn

Canolfan ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel, lle mae cewri’r byd ym maes ynni adnewyddadwy yn creu cyfleoedd i fusnesau drwy brosiectau ynni carbon isel o bwys.

Mae statws Ardal Fenter Ynys Môn ochr yn ochr â’i Rhaglen Ynys Ynni yn gyrru twf yr ynys wrth iddi ddatblygu’n ganolfan ragoriaeth fyd-enwog ym maes cynhyrchu ynni carbon isel.

  • Canolfan o safon fyd-eang ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel.
  • Adnoddau naturiol unigryw sy’n addas ar gyfer prosiectau ynni morol ac adnewyddadwy.
  • Deuddeg safle eang, cysylltiedig.
  • Gweithlu medrus.
  • Mae Porthladd Caergybi yn darparu cyfleusterau angori a thrin ar gyfer amrywiaeth o weithrediadau masnachol.
  • Cyfleoedd sylweddol yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer prosiectau mawr, hirdymor.

Y weledigaeth ar gyfer Ardal Fenter Ynys Môn yw creu canolfan ragoriaeth fyd-enwog o ran cynhyrchu, arddangos a gwasanaethu ynni carbon isel. Mae hyn wedi’i osod yng nghyd-destun ymrwymiad cenedlaethol Cymru i ddyfodol carbon isel.

Mae busnesau ynni allweddol y byd yn parhau i ddod â’u prif brosiectau ynni carbon isel i Ardal Fenter Ynys Môn – a dim ond un o’r rhesymau dros hynny yw ein hadnoddau naturiol sylweddol.

Rheswm arall yw ein rhaglen Ynys Ynni, lle mae Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol a’r sector preifat yn gweithio ochr yn ochr, er mwyn i ni allu gweithredu’n gyflym ac yn effeithlon i ymateb i ofynion busnes.

Yna mae’r gweithlu medrus – sgiliau niwclear, technegol iawn, peirianneg a gweithgynhyrchu, er enghraifft – ein cadwyn gyflenwi sefydledig sy’n tyfu, yn ogystal â’r gallu ymchwil a datblygu lleol.

Mae Ardal Fenter Ynys Môn hefyd yn agos at Ardal Fenter Eryri – ac mae Ynys Môn ynghyd â’r ardal honno yn glwstwr ynni carbon isel o bwys – ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, sy’n canolbwyntio ar ddeunyddiau a gweithgynhyrchu uwch. 

Beth bynnag fo’ch gofynion o ran gofod, mae gan Ardal Fenter Ynys Môn ddeuddeg o safleoedd amrywiol sydd â chysylltiadau da, ar wahanol gamau yn y broses ddatblygu. 

Mae’r rhain yn amrywio o Barth Morol pwrpasol ar gyfer dyfeisiau ynni’r môr, i Borthladd dŵr dwfn Caergybi – un o brif fynedfeydd y DU i Iwerddon. 

Ardaloedd a safleoedd Ardal Fenter Ynys Môn

  • Ystad Ddiwydiannol Amlwch.
  • Hen safle Alwminiwm Môn.
  • Ystad Ddiwydiannol Bryn Cefni.
  • Tir yr Hufenfa (i’r gogledd o Fferm Lledwigan).
  • Hen safle Octel.
  • Ystad Ddiwydiannol Gaerwen.
  • Parth Morol.
  • Parc Gwyddoniaeth Menai.
  • Parc Cybi.
  • Ystad Ddiwydiannol Penrhos.
  • Porthladd Caergybi.
  • Rhosgoch.

Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal

  • Mona Lifting.
  • Rondo Media.
  • Huws Gray.
  • Mon Maintenance Services.
  • Cufflink.
  • Cap Ventis.
  • DP Welding & Engineering.

Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi

  • Coleg Menai.
  • Gorsaf Bŵer Niwclear Wylfa.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.