Amdanom ni

Un o fentrau Llywodraeth Cymru yw Arbenigedd Cymru. Fe'i cefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a'i nod yw rhoi cymorth ichi ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio.

Mae'n galluogi'r rheini sy'n manteisio arni i nodi ac i hysbysebu heriau sy'n wynebu diwydiant, a hefyd yr hyn yn gall ei wneud. Mae hefyd yn hyrwyddo'r arbenigedd sydd ar gael yn y byd academaidd yng Nghymru.

Mae'r wefan yn darparu gwybodaeth hefyd am amryfal fathau o gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu gyda chamau pwysig eich prosiect, gan gynnwys y cymorth a gynigir gan ein tîm o Arbenigwyr Arloesi hynod brofiadol, sydd ar gael ledled Cymru.

Mae cynnwys y wefan, gan gynnwys yr wybodaeth, yr offerynnau a'r dolenni, yn cael eu darparu'n rhad ac am ddim, ac mae'r cynnwys yn cael ei ddarparu gan drydydd partïon.

Cysylltwch â ni i hysbysebu'r hyn y gallwch ei wneud, cyfleoedd i gydweithio, a’r heriau sy’n eich wynebu.