Partneriaethau SMART
Gwahodd ceisiadu am Bartneriaethau SMART
Gwahodd ceisiadau
Mae Partneriaethau SMART yn cynnig help ariannol i brosiectau cydweithredol ac arloesol sydd angen help arbenigwyr arnyn nhw i dyfu, i fod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.
Nod Partneriaethau SMART yw cefnogi prosiectau cydweithredol, gyda phwyslais clir ar wella capasiti a gallu busnesau Cymru i ddatblygu gweithgareddau ymchwil a datblygu trwy eu cysylltu â chyrff ymchwil ac â chynorthwyydd i'w helpu i weithio ar brosiect penodol sy'n datblygu gwasanaeth, cynnyrch neu broses newydd, a hynny’n unol ag Arbenigo Craff.
Caiff ei gynnig i fusnesau Cymreig a chyrff ymchwil yng Nghymru. Mae'n rhaid i'r prosiect ddangos y bydd cydweithredu effeithiol yn digwydd ac y bydd yn cyflenwi effeithiau posibl o safbwynt economi Cymru a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Bydd y cyllid yn ariannu 50% o gyfanswm costau cymwys y prosiect. Bydd yn rhaid i’r partner busnes dalu gweddill costau cymwys y prosiect. Rhoddir y cyllid i’r sefydliad ymchwil.
Hyd y prosiectau: 6 i 12 mis
Nid yw gwaith ymchwil dan gontract a gwasanaethau ymchwil yn gymwys.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'ch Rheolwr Datblygu Ymchwil
De-ddwyrain Cymru - Richard Morgan - Richard.Morgan4@gov.wales
De-orllewin Cymru - Terry Stubbs - terry.stubbs@gov.wales
Gogledd a Chanolbarth Cymru - Samantha Williams – samantha.williams@gov.wales

