BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Dŵr

Gallai gwella effeithlonrwydd dŵr eich busnes arbed arian i chi, a lleihau eich effaith ar yr amgylchedd.

Gellir gwneud arbedion sylweddol trwy fuddsoddi mewn arferion a thechnolegau lleihau dŵr na fydd yn costio dim neu fawr ddim i chi, a thrwy fabwysiadu dull systematig o leihau eich defnydd o ddŵr.

Trwy ddefnyddio llai o ddŵr, gall sefydliadau arbed costau cyflenwi dŵr, costau gwaredu
dŵr gwastraff, a llawer o gostau cysylltiedig eraill, fel ynni i gynhesu neu gemegau trin dŵr.

Efallai nad yw costau dŵr yn ymddangos yn sylweddol, mae gwir gost y cyflenwad dŵr a gwaredu elifiant wedi codi dros 40 y cant er 2002. Mae’r gwir gost yn sylweddol uwch na’r costau sylfaenol ar gyfer cyflenwi dŵr a gwaredu elifiant. Dylid cynnwys hefyd y ‘costau cudd’ o wresogi, pwmpio, cynnal a chadw, dibrisiant cyfalaf a thriniaeth â chemegau, yn ogystal â gwerth deunyddiau sy’n cael eu colli mewn dŵr gwastraff a chostau staff.

Bydd datblygu rhaglen effeithlonrwydd dŵr yn eich helpu i ganfod meysydd lle gellir gwneud gwelliannau parhaus. Bydd dealltwriaeth dda o’ch gweithrediadau hefyd yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd i wella eich defnydd o ynni a deunyddiau ac i ganfod rhagor o fuddiannau amgylcheddol ac economaidd.

Bydd defnyddio’r canllawiau, y taflenni ffeithiau a’r dolenni a roddir yn helpu eich busnes i wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau.

Canllawiau

  1. Sut i ddatblygu cynllun sy’n gwneud defnydd effeithlon o ddŵr
  2. Casglu dŵr glaw

Taflenni ffeithiau

  1. Sicrhau ymrwymiad yr uwch reolwyr 
  2. Casglu dŵr glaw 
  3. Lleihau gwastraff dŵr

Cliciwch yma i weld yr holl astudiaethau achos.



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.