Bydd gwella ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth yn helpu eich sefydliad i gydymffurfio o ran storio a gwaredu gwastraff. Ceir rhagor o wybodaeth ar sut i reoli gwastraff trwy ddilyn y ddolen at becyn cymorth gwastraff BOSS, a thaflen ffeithiau ar drafod gwastraff.
Deddfwriaeth gwastraff allweddol
Dylid trafod a storio gwastraff yn ddiogel a staff mewn cynwysyddion addas, sydd wedi’u labelu’n eglur i atal cynnwys rhag gollwng, halogi na difetha, a hynny’n unol â’r Cod Ymarfer Dyletswydd Gofal Gwastraff.
Mae’r rheoliadau Dyletswydd Gofal yn cael eu gorfodi o dan adran 34 o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990. Mae methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd gofal yn drosedd sy’n agored i ddirwy benagored os collfernir.
Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 yn datgan bod yn rhaid i’ch busnes a’ch contractwr gwastraff gadarnhau bod yr hierarchaeth gwastraff wedi’i ddilyn. Mae’r hierarchaeth gwastraff yn sgorio opsiynau ar gyfer trin gwastraff, gan roi blaenoriaeth i atal gwastraff.
Wrth ddelio â gwastraff peryglus, sydd golygu bod risg uwch o niwed i’r amgylchedd neu iechyd pobl, dylid cadw Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005 mewn cof.
Deddfwriaeth yng Nghymru
Mae gan Lywodraeth Cymru bwer i basio ei deddfau gwastraff ei hun, sy’n helpu i weithredu Strategaeth Gwastraff Cymru - Tuag at ddyfodol diwastraff: ein strategaeth wastraff ac Mwy nag ailgylchu
Mae gofyniad cyfreithiol i gasglu deunydd ailgylchadwy (papur, gwydr, plastig a metel) ar wahân, a dylid trafod hyn â chontractwr gwastraff ac ailgylchu eich sefydliad. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cynnwys y gofyniad cyfreithiol ar gyfer casgliadau ar wahân, sy’n ymarferol yn amgylcheddol ac economaidd; a adwaenir hefyd fel rhwymedigaethau TEEP. Gall didoli deunyddiau fel y gellir eu cadw o safleoedd tirlenwi a’u hailgylchu neu eu hadennill arwain at gostau is a chanlyniadau positif i’r economi yn ogystal â’r amgylchedd. Mae casgliadau ar wahân yn sicrhau nad yw deunyddiau y gellir eu hailgylchu’n cael eu gwastraffu. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod modd defnyddio gwastraff bwyd fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy i gynhyrchu ynni i fusnesau a chartrefi, ac fel gwrtaith o ansawdd uchel.
Yn 2023 mae disgwyl i Gymru weithredu’n llawn ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) sy’n gysylltiedig â gwastraff, a fydd yn gwella prosesau rheoli gwastraff ymhellach trwy helpu i gyflawni lefelau uwch o ailgylchu gwastraff gan fusnesau, trin gwastraff bwyd yn well ac adennill mwy o ynni. Bydd y Ddeddf yn gweithredu ochr yn ochr â gwaharddiadau ar dirlenwi i sicrhau bod deunyddiau gwerthfawr yn cael eu hailgylchu. Bydd hyn yn helpu i leddfu pwysau ar adnoddau naturiol gan gyfrannu at ganlyniadau positif i’r economi ac i’r amgylchedd. Daeth Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i rym yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016.
Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) wedi’i rhannu’n 7 rhan. Mae Rhan 4 o’r Ddeddf yn rhoi pwyslais penodol ar ddidoli a chasglu. Ceir rhagor o wybodaeth am y Ddedd hon wrth lawrlwytho’r daflenni: Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016: taflenni ffeithiau
Byddai gwella’r dulliau presennol o reoli gwastraff drwy’r Ddeddf yn rhoi mwy o sicrwydd o ran buddsoddi yn y seilwaith ailgylchu, casglu gwastraff a thrin gwastraff.
Mae hyn yn arwain at:
- arbed costau i fusnesau drwy beidio â gorfod talu'r dreth dirlenwi
- sicrhau bod busnesau yn fwy cystadleuol trwy leihau costau deunyddiau
- cynyddu cyflogaeth drwy greu swyddi ym maes casglu ac ailbrosesu
- mwy o gyfleoedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o wastraff busnesau
- rhoi mwy o sicrwydd o gyflenwad o adnoddau i’n sector gweithgynhyrchu
- helpu i sbarduno twf gwyrdd a datblygu economi gylchol i Gymru trwy gael busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru i ddefnyddio deunyddiau y gellir eu hailgylchu sy’n cael eu casglu yng Nghymru
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr
- lleihau ôl-troed ecolegol Cymru
Gweithredu System Reoli Amgylcheddol (EMS)
Gall System Reoli Amgylcheddol egluro cyfrifoldebau pob aelod o staff i leihau effeithiau amgylcheddol ac i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Mae sawl ffordd o weithredu EMS ffurfiol. Gallwch ddatblygu eich system eich hun yn fewnol neu weithredu’r Safon Ryngwladol (ISO 14001), Cynllun Rheoli Amgylcheddol ac Archwilio yr UE (EMAS), Safon Brydeinig (BS 8555) neu yng Nghymru, EMS y Ddraig Werdd ar gyfer busnesau bach a chanolig.