BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Beth yw Effeithlonrwydd Adnoddau?

Lleihau Eich Costau Ynni, Dŵr a Gwaredu Gwastraff. Gallai eich busnes chi leihau costau trwy ddefnyddio llai o ynni a dŵr, defnyddio llai o ddeunyddiau crai a lleihau gwastraff.

Gall pob un ohonom ymddwyn yn fwy cyfrifol i ddefnyddio’r adnoddau sydd gennym yn fwy darbodus. Mae gan sefydliadau ledled Cymru y potensial i arbed miliynau bob blwyddyn trwy wneud defnydd mwy effeithlon o adnoddau fel dŵr, ynni a deunyddiau crai. Mewn llawer o achosion, gellid arbed llawer o’r arian hwn yn gyflym ac yn syml heb ddim neu fawr ddim cost.

Mae effeithlonrwydd adnoddau'n cynnwys pob agwedd ar fesurau effeithlonrwydd ynni, gwastraff a dŵr. Ar yr olwg gyntaf, synnwyr cyffredin yw gwneud defnydd effeithlon o’ch deunyddiau crai – ond gyda chymorth a mwy o wybodaeth, gallech fabwysiadu dull i ddiogelu’r adnoddau hyn a allai arbed arian i chi a’ch galluogi i fuddsoddi i dyfu eich busnes.

Mae effeithlonrwydd adnoddau’n awr yn bwysicach nag erioed er mwyn lleihau gorbenion busnes ac i helpu Cymru i ymgyrraedd at economi gynaliadwy carbon isel, gwastraff isel. Trwy ddefnyddio adnoddau cyfyngedig y Ddaear mewn ffordd sy’n golygu na fyddant yn cael eu niweidio na’u dihysbyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gallwn leihau ein heffaith ar yr amgylchedd. Mae defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon yn ein galluogi i greu mwy, a hynny trwy ddefnyddio llai.

Gall defnyddio llai o ddeunyddiau crai leihau’r perygl o brinder deunyddiau, hybu arloesi a chydnerthedd, a gall helpu eich busnes i gyrraedd marchnadoedd newydd. Gallai hefyd:

  • lleihau eich gorbenion a chynyddu’ch elw;
  • eich helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol;
  • gwella eich delwedd ymhlith eich cwsmeriaid, eich cyflogeion a’r gymunedol leol; a
  • gwella eich gweithle a’r amgylchedd lleol.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel.

Gall yr adnoddau a geir yma eich helpu ar eich taith tuag at greu busnes cryf sy’n gwneud defnydd effeithlon o adnoddau. Mae gwybodaeth fwy manwl ar Effeithlonrwydd Adnoddau ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig ar gael ar wefannau Yr Ymddiriedolaeth Garbon  Energy Savings Trust a WRAP. Neu, rhowch alwad i ni fel y gallwn eich cysylltu ag un o Gynghorwyr Effeithlonrwydd Adnoddau Busnes Cymru.

Cysylltwch â ni heddiw:

Ffoniwch: 03000 6 03000 neu anfonwch neges e-bost

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.



Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.