Cymrodoriaethau Sêr Cymru II
Gall ymchwilwyr unigol, 3-5 mlynedd wedi eu PhD wneud cais am gymrodoriaeth drwy gyflwyno amlinelliad o'r gwaith ymchwil yr hoffent ei wneud o fewn sefydliad fydd yn eu cynnal yng Nghymru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r tîm rheoli drwy FLWCH NEGESEUON E-BOST SÊR CYMRU II
Meini Prawf Cymhwysedd
Dylai ymgeiswyr ar gyfer Cymrodoriaethau Sêr Cymru II fodloni'r meini prawf cymhwysedd isod:
-
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr fod yn Ymchwilwyr Addysgol ar y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r cynnig h.y. bod ganddynt radd doethuriaeth (neu o leiaf 4 mlynedd o brofiad ymchwil cyfwerth) gydag oddeutu 3 - 5 mlynedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethuriaeth.
-
Gall yr ymgeiswyr fod o unrhyw genedligrwydd.
-
mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau.
-
Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesol sylfaenol.
-
Mae'n rhaid i ymgeiswyr dderbyn cefnogaeth lawn y sefydliad sy'n eu cynnal.
Bydd ymgeiswyr sydd ddim yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd neu nad ydynt yn cadw at y canllawiau a roddir yma yn cael eu gwrthod gan y tîm rheoli.
Y Broses Ymgeisio
Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas mewn sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru. Dylid disgrifio'r prosiectau mewn dim mwy na 12 tudalen a chwblhau'r ffurflen gais briodol.
Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.
Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd (os oes rhai).
Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil, mewn e-bost.
Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.
Ffurflenni Cais
Dylid cwblhau eich Ffurflen Gais a'i hanfon mewn e-bost at FLWCH NEGESEUON E-BOST SER CYMRU II. Dylid cynnwys enwau 2 ganolwr enwebedig yn yr e-bost.
Bydd y ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 12 tudalen yn ogystal â CV 3 tudalen, maint ffont 11, Times New Roman neu Arial gyda dim llai na 2cm o ymyl (chwith, dde a gwaelod) a 1cm o frig y dudalen. Dylid rhestru'r canolwyr ar waelod y ddogfen a bydd yn cyfrif tuag at gyfanswm y tudalennau.
Yna byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o'ch ffurflen o fewn 5 diwrnod gwaith. Os nad ydych yn derbyn hwn cysylltwch â'ch tîm rheoli ar yr un cyfeiriad e-bost.
Bydd y broses lawn ar gyfer adolygu a dewis y ffurflen gais yn cael ei rhoi ar y dudalen yr Adolygiad o geisiadau.