Arbenigedd Cymru
Yr adnodd ar-lein sy'n ysgogi sefydliadau yng Nghymru i gydweithio ac i arloesi.
Gall Arbenigedd Cymru eich helpu i nodi ac i hysbysebu cyfleoedd i gydweithio, ac i ddysgu mwy am yr amryfal fathau o gymorth sydd ar gael i'ch helpu gyda'ch prosiectau arloesol.
Os hoffech wybod mwy am Arloesedd SMART, a sut y gall ein tîm o beirianwyr, gwyddonwyr, ymchwilwyr ac arbenigwyr masnacheiddio eich helpu gyda’ch prosiect arloesedd, cliciwch yma.
Prosiectau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws: Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £5m o gymorth i fusnesau arloesol a Sefydliadau Ymchwil yng Nghymru i ddarparu'r atebion sy'n mynd i'r afael a'r heriau a gyflwynir gan y coronafeirws. Gallwch weld rhagor o wybodaeth am y cymorth yma.
Cysylltwch â ni i hyrwyddo’ch heriau a chyfleoedd i gydweithredu.