Mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs) yn rhan sylfaenol o’r ymchwil, datblygu ac arloesi a gynigir i fusnesau yng Nghymru a heddiw, mae Llywodraeth Cymru'n estyn y cynnig tan 2023, er mwyn annog mwy o fusnesau i gydweithio â KTP, i elwa ar y rhaglen a chynyddu twf economaidd a’r effaith gymdeithasol (ar ôl covid).
Gyda'r sefyllfa economaidd anodd bresennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu 75% o gostau prosiectau KTP ar gyfer BBaChau sy'n bodloni'r meini prawf. Fel arfer, disgwylir i fusnesau BBaChau gyfrannu 33% o gyfanswm costau prosiect, ond dim ond 25% y bydd yn rhaid i fusnesau cymwys yng Nghymru ei gyfrannu
Mae KTP, a'r KTP Rheoli ynghyd â KTP Uwch Llywodraeth Cymru (i gefnogi trosglwyddo gwybodaeth rhwng gwledydd) yn helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol ac i berfformio’n well drwy ddefnyddio gwybodaeth, technoleg a sgiliau yn well drwy ddatblygu partneriaethau â phrifysgol, coleg, sefydliad technoleg ymchwil neu ganolfan Catapwlt. Bydd partneriaethau'n datblygu cynnig i ddiwallu angen penodol o fewn y busnes a rhaid cyflwyno’r cynnig ar gyfer ei asesu erbyn 12pm ddydd Mercher 29 Mawrth 2023. I fod yn gymwys am gyllid, rhaid i’r cais gyrraedd erbyn y dyddiad hwn.
Gall y bartneriaeth amrywio o ran hyd o un i dair blynedd yn ôl anghenion y busnes. Mae croeso i fusnesau o bob sector wneud cais.
Mae rhagor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru am y fenter hon yma.
Mae KTP yn broses gystadleuol sy’n cael ei gweinyddu gan Innovate UK, sy'n rhan o UKRI. Rhaid cadw at y Telerau a’r Amodau. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Dylech gysylltu â phrifysgol, coleg, sefydliad technoleg ymchwil, Catapwlt neu'ch Cynghorydd Trosglwyddo Gwybodaeth rhanbarthol i drafod eich cynnig a'ch cymhwysedd.
Dim ond Prifysgol, Coleg Addysg Bellach, Sefydliad Technoleg Ymchwil neu Gatapwlt sy’n cael cyflwyno prosiectau. Rhaid i'r swydd a grëir gan y cyllid fod wedi'i lleoli yng Nghymru i fod yn gymwys am y cyllid hwn.