Adeiladwch eich busnes newydd gyda hyder
Manteisiwch ar y cyngor a’r help arbenigol, annibynnol rydych chi ei angen
Rhowch hwb i danio eich busnes heddi
Mae Busnes Cymru yma i’ch cefnogi chi
Manteisiwch ar ein cyngor busnes arbenigol
Cliciwch ar y botwm isod a llenwch y ffurflen i siarad â’n tîm
Busnes Cymru yw gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru sy'n cael ei ariannu'n llawn i helpu pobl i ddechrau, rhedeg, a thyfu eu busnes eu hunain. Gall ein tîm profiadol o gynghorwyr helpu pob entrepreneur uchelgeisiol i gymryd y camau cyntaf i mewn i hunangyflogaeth gan ddarparu cymorth ar yr holl agweddau ar ddechrau busnes, gan gynnwys:
- Cynllunio busnes a rhagolygon ariannol
- Cyrchu cyllid a chadw cyfrifon
- Marchnata a brandio
- Cyfreithiau, rheoliadau ac yswiriant
- Strwythur cyfreithiol a dod o hyd i adeilad
- Cyflogi staff
Dros y tair blynedd diwethaf, mae Busnes Cymru wedi helpu mwy na 11,000 o bobl i ddechrau neu dyfu eu busnesau ac wedi rhoi cymorth i lansio mwy na 2,200 o fentrau newydd.
Diolch i'n tîm arbenigol o gynghorwyr busnes mae busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi llwyddo i greu 10,000 o swyddi a chael hyd i fwy na £33 miliwn o gyllid drwy fenthyciadau a grantiau mewn amrediad eang o ddiwydiannau gan gynnwys adeiladu, manwerthu, gofal cymdeithasol, twristiaeth a lletygarwch ymhlith eraill.
Mae canolfannau rhanbarthol ar gael ledled y wlad ac mae Busnes Cymru yn cynnig mynediad at wybodaeth, gweithdai, cyngor ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyned, yn ogystal â chymorth arbenigol.
Mae gweithdai cychwyn busnes a webinarau yn cael eu cynnal yn rheolaidd i helpu entrepreneuriad y dyfodol i asesu eu sgiliau a'u gallu, trafod eu syniadau busnes ac ennyn gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ynghylch sut i ddechrau en busnes eu hunain.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wales.business-events.org.uk/cy