Arloesedd SMART yn helpu busnesau i ailddechrau gweithio

Fel rhan o’i hymateb i’r COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod am roi bron i £2bn o gymorth i fusnesau yng Nghymru, hynny ar ben arian Llywodraeth y DU. 

Mae’n gyfnod aruthrol o anodd i’r economi gyfan yng Nghymru, a nod y Llywodraeth trwy ddarparu’r cymorth hwn yw helpu cymaint o fusnesau â phosibl i oroesi’r argyfwng.

Mae Cymorth Arloesedd SMART ar gael i helpu busnesau gweithgynhyrchu ym mhob sector.  Bydd yn helpu busnesau i gynllunio a chynnal y newidiadau sydd eu hangen i roi trefniadau gweithio diogel rhesymol ar waith sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Bydd arbenigwyr yn gweithio gyda chi i nodi’r cyfleoedd ar gyfer creu amgylchedd gwaith diogel, gan ddefnyddio dulliau arloesol i gynnal os nad gwella lefelau cynhyrchu. 

Dyma rai camau y gellwch eu cymryd i wella’ch cynnyrch ac amodau’ch busnes:

  • Asesiad cyfrinachol o risg COVID-19
  • Trefniadau arloesol yn y gweithle gan gynnwys patrymau a chynlluniau prosesu
     
  • Defnyddio technegau a thechnolegau cynhyrchu arloesol
  • Asesiad o’r cyfarpar amddiffyn personol sydd eu hangen ac o’r trefniadau glanhau
  • Gwneud y gorau o’r staff sydd ar y safle trwy amserlenni gwaith, logisteg a rheoli pryd bydd cyflenwadau’n cyrraedd
     
  • Cael cydweithrediad y gweithlu wrth gynllunio newidiadau
  • Sicrhau bod mannau cyffredin yn ddiogel e.e. meysydd parcio, ffreutur, cypyrddau cloi a thoiledau
     
  • Trefniadau diogel ar gyfer hyfforddi staff
     
  • Ystyried gwneud newidiadau i’r cynnyrch gan gynnwys eu deunydd, proses gynhyrchu, deunydd pacio ac eco-ddylunio, os oes problemau â’r gadwyn gyflenwi
     
  • Chwilio am gyflenwyr newydd os ydy’r busnes yn ei chael hi’n anodd cael hyd i rannau a deunydd.
     

Mae cymorth Cynhyrchiant SMART ar gael am ddim i fusnesau yng Nghymru trwy Lywodraeth Cymru gyda chymorth ariannol yr UE.

Bydd arbenigwyr yn gweithio gyda chi, heb dâl, i gynllunio’r gwelliannau sydd eu hangen ac i’w rhoi ar waith.

I siarad â chynghorydd anfonwch e-bost at SMARTInnovation@llyw.cymru