Introduction to Sustainability Transcript (CY)

Shwmae eto!

Nawr eich bod chi’n gwybod mwy am y Ddeddf Llesiant a wedi cael cyfle i weld sut mae rhai busnesau yng Nghymru yn ei ddefnyddio, beth am drafod bod yn gynaliadwy.

Cynaliadwyedd yw ein gallu i greu gwell safon byw, tegwch a chydraddoldeb, i ofalu am yr amgylchedd a pharchu cyfyngiadau ecolegol

I’ch helpu gyda hyn, mae gyda ni grwp arbennig o gynghorwyr o’r enw Resource Efficiency Advisors sy yno i roi cyngor a help am ddim.

Byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynnau a gallwn roi esiamplau o sut gall eich busnes fod yn fwy cynaliadwy.  Cewch adroddiad ar y diwedd a byddwn yn eich cyfeirio at un o’r cynghorwyr fydd yn cysylltu i drafod eich anghenion.

Na’i adael i chi fwrw mlaen gyda’r cwestiynnau nawr a gobeithio wnewch chi weld y wybodaeth yn ddefnyddiol.

Diolch am wrando a diolch am edrych mewn i ffyrdd newydd o weithio i chi, eich busnes ac i Gymru.

Welwn ni chi cyn bo hir!