Introduction to Sustainability Transcript (CY)
Shwmae eto!
Nawr eich bod chi’n gwybod mwy am y Ddeddf Llesiant a wedi cael cyfle i weld sut mae rhai busnesau yng Nghymru yn ei ddefnyddio, beth am drafod bod yn gynaliadwy.
Cynaliadwyedd yw ein gallu i greu gwell safon byw, tegwch a chydraddoldeb, i ofalu am yr amgylchedd a pharchu cyfyngiadau ecolegol
I’ch helpu gyda hyn, mae gyda ni grwp arbennig o gynghorwyr o’r enw Resource Efficiency Advisors sy yno i roi cyngor a help am ddim.
Byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynnau a gallwn roi esiamplau o sut gall eich busnes fod yn fwy cynaliadwy. Cewch adroddiad ar y diwedd a byddwn yn eich cyfeirio at un o’r cynghorwyr fydd yn cysylltu i drafod eich anghenion.
Na’i adael i chi fwrw mlaen gyda’r cwestiynnau nawr a gobeithio wnewch chi weld y wybodaeth yn ddefnyddiol.
Diolch am wrando a diolch am edrych mewn i ffyrdd newydd o weithio i chi, eich busnes ac i Gymru.
Welwn ni chi cyn bo hir!