Sêr Disglair

Bydd y cymrodoriaethau 'Sêr Disglair' yn swyddi uchel iawn eu parch, a bydd cystadleuaeth frŵd amdanynt, ac maent wedi'u cynllunio i ddenu'r 'sêr disglair' gorau un ym maes ymchwil academaidd. Bydd pecynnau 'Sêr Disglair' yn cael eu hariannu am oddeutu £200 mil y flwyddyn, a gall olygu cydweithio gyda sefydliadau masnachol neu drydydd sector perthnasol.

Mae'n bosibl cyflwyno ceisiadau 'Sêr Disglair' ar unrhyw adeg.

Mae'n rhaid cwblhau'r prosiectau erbyn 31 Hydref 2022.

Os hoffech wneud cais, dilynwch y camau a nodir isod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm rheoli trwy BLWCH NEGESEUON E-BOST CYFFREDINOL SER CYMRU II

Meini Prawf Cymhwysedd

Dylai ymgeiswyr ar gyfer cymrodoriaeth Sêr Disglair fodloni'r meini prawf cymhwysedd isod:

  • Dylai ymgeiswyr feddu ar 7 mlynedd o brofiad ers cwblhau PhD (neu radd gyfwerth) a hanes blaenorol addawol yn y maes gwyddonol.

  • Dylai ymgeiswyr gynnig prosiect arfaethedig o safon.

  • Gall yr ymgeiswyr fod o unrhyw genedligrwydd.

  • Mae'n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau a dogfennau cysylltiol (ffurflen arolygwr, ffurflen foeseg, a CV).

  • Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr gydymffurfio â'r egwyddorion moesegol sylfaenol sydd wedi'u nodi yn yr adran foeseg.

  • Mae'n rhaid i ymgeiswyr dderbyn cefnogaeth lawn y sefydliad sy'n eu cynnal.

Bydd ymgeiswyr sydd ddim yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd neu nad ydynt yn cadw at y canllawiau a roddir yma yn cael eu gwrthod gan y tîm rheoli.

Y Broses Ymgeisio

Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i'w wneud mewn  sefydliad sy'n eu cynnal yng Nghymru sydd ar y rhestr.  Dylid disgrifio'r prosiectau mewn dim mwy na 18 tudalen ar gyfer cymrodoriaethau Sêr Disglair gan ddefnyddio'r ffurflen gais briodol.

Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae'n rhaid iddynt drafod hyn gyda'u harolygydd posibl cyn ei gyflwyno.

Bydd  craffu moesegol ar bob prosiect a bydd angen i ymgeiswyr ddarparu adran foeseg wedi'i chwblhau o fewn eu ffurflen gais.

Dylai'r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o'u CV diweddaraf o fewn eu ffurflen gais, dim mwy na 3 tudalen o hyd. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am eu haddysg, eu gwaith blaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiant yn eu gyrfa ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati; a rhestr o'u cyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd.

Dylai'r ymgeiswyr hefyd anfon enwau dau ganolwr sy'n gyfarwydd â'u gwaith a'r maes ymchwil arfaethedig yn yr e-bost i gyd-fynd â'u cais.

Dylai'r sefydliadau sy'n eu cynnal roi dadansoddiad o gostau gan ddefnyddio'r tablau o fewn eu ffurflenni cais.

Ffurflenni Cais

Dylid cwblhau eich Ffurflen Gais a'i hanfon mewn e-bost at FLWCH NEGESEUON E-BOST SER CYMRU II. Dylid cynnwys enwau 2 ganolwr enwebedig yn yr e-bost.

Bydd y ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 18 tudalen yn ogystal â CV 3 tudalen, maint ffont 11, Times New Roman neu Arial gyda dim llai na 2cm o ymyl (chwith, dde a gwaelod) a 1cm o frig y dudalen. Dylid rhestru'r canolwyr ar waelod y ddogfen a bydd yn cyfrif tuag at gyfanswm y tudalennau.

Yna byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o'ch ffurflen o fewn 5 diwrnod gwaith. Os nad ydych yn derbyn hwn cysylltwch â'ch tîm rheoli ar yr un cyfeiriad e-bost.

Bydd y broses lawn ar gyfer adolygu a dewis y ffurflen gais yn cael ei rhoi ar dudalen yr Adolygiad o geisiadau.