Mae’r Clwstwr Datblygu Diodydd wedi cael ei lansio fel rhan o raglen Clystyrau Llywodraeth Cymru. Y nod ydy cefnogi twf drwy gael y diwydiant i gydweithredu a chydweithio. Mae Sector Diodydd Cymru yn cyflogi bron i 2,000 o bobl ac mae’n werth tua £596 miliwn. Mae’n gwneud cyfraniad gwerthfawr at yr economi, mewn rhannau o Gymru wledig yn arbennig.

Mae Sector Diodydd Cymru yn cynnwys tua 200 o gyflenwyr ledled Cymru. Mae’n sector eang iawn ac mae anghenion y sectorau cynnyrch unigol yn y sector yn wahanol iawn. Ar y cychwyn, ein bwriad oedd dod â’r holl gyflenwyr at ei gilydd mewn un digwyddiad yng nghanolbarth Cymru. Ond, roedd ymatebion i arolwg a chyfarfodydd un-i-un yn awgrymu mai’r dull gorau fyddai rhannu’n ddau gyfarfod: un ar gyfer cyflenwyr alcohol ac un arall ar gyfer cyflenwyr dŵr a diodydd ysgafn.

Felly, hoffen ni eich gwahodd i ddigwyddiad cyntaf y Clwstwr Diodydd Alcohol ddydd Iau 23 Tachwedd 2017 rhwng 4pm a 7pm, yng Ngwesty'r Metropole, Temple Street, Llandrindod, LD1 5DY. 

Stephen Davies, Prif Weithredwr Penderyn, fydd yn agor y digwyddiad. Bydd yn sôn am sut y cafodd y Ddistyllfa enwocaf yng Nghymru ei chreu. 

Wedyn bydd Anthony Mills o BIC Innovation yn siarad. Mae wedi gweithio yn Seland Newydd gyda busnesau gwin bach a mawr yn Marlborough ac Ynys Wiaheke. Mae hefyd yn gyfarwydd â’r clwstwr llwyddiannus a gafodd ei sefydlu yn ardal Hawkes Bay. Mae gan Anthony brofiad gwych o'r ffordd mae clystyrau’n gweithio a bydd yn sôn am sut y gall cydweithio fod o fudd i bob parti ar gyfer twf yn y dyfodol.

Yn dilyn hynny, bydd Vasco Sanchez Rodrigues o Ysgol Fusnes Caerdydd yn sôn am ddefnyddio’r Prosiect Co-Growth i greu cyfleoedd i gydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi diodydd. 

Wedyn, bydd Duncan Macaskill yn rhannu gwybodaeth allweddol am y farchnad ac yn sôn am ffyrdd o weithio cyn y bydd Mark Grant yn rhannu’r ymateb a gafwyd o arolygon cyflenwyr a chyfarfodydd un-i-un â chyflenwyr sydd wedi cael eu cynnal hyd yma.   

Ar ôl hynny, byddwn yn rhannu’n grwpiau i roi cyfle i chi ddweud beth ydy’ch blaenoriaethau chi ar gyfer y clwstwr ac ymhle, yn eich barn chi, y gallwn gydweithredu yn y dyfodol.

Bydd bwffe ysgafn ar gael ar ôl y digwyddiad i roi cyfle i chi rwydweithio gyda thîm Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru, y cyflenwyr eraill neu'r siaradwyr gwadd. 

Os hoffech chi ddod i’r digwyddiad uchod, a wnewch chi gadarnhau hynny drwy anfon e-bost at 

bwyd-food@levercliff.co.uk, gan gadarnhau pwy fydd yn dod o’ch busnes chi.

Diolch.

Share this page

Print this page