A yw eich busnes chi yn ystyried datblygu cynnyrch bwyd a diod yn y sectorau bwydydd gwell-i-chi, iach a maethlon?

Ydych chi’n ystyried tyfu eich busnes a datblygu ffynonellau refeniw newydd?

Mae ‘Food Matters Live’, sy’n cael ei gydnabod yn fyd eang yn y maes dyfeisgarwch, yn gweithio gyda Bwyd a Diod Cymru i gynnal digwyddiad briffio yn canolbwyntio ar wneud y cysylltiad rhwng bwyd, iechyd a maeth.

Bydd y sesiwn boreol yn dod ag arbenigwyr rhyngwladol i Gymru, gyda chyfres o weithdai yn y prynhawn i’ch cynorthwyo i wneud dewisiadau er mwyn tyfu eich busnes.

Am fwy o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru cliciwch ar y ddolen:

https://www.foodmatterslive.com/about/industry-briefings/industry-briefing-food-drink-wales-june17

 

Share this page

Print this page