Wrth i gynhyrchwyr o Gymru baratoi i fynd i EXPO Byd-eang Bwyd y Môr Brwsel (Brussels Seafood Global EXPO), heddiw, mae Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, wedi dweud bod sector bwyd y môr yn bwysig iawn i’n cynlluniau i ddatblygu diwydiant bwyd Cymru.

Ddiwedd y mis hwn, bydd chwe cwmni o Gymru yn teithio i Frwsel i chwifio baner bwyd a diod Cymru.  Yno, byddan nhw’n cael cyfle i ddangos eu cynnyrch i dros 25,000 o brynwyr a chyflenwyr o 150 o wledydd o bob cwr o’r byd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:  “Rydym yn gwybod bod ansawdd bwyd a diod Cymru ymysg y gorau yn y byd ac mae mynd i ddigwyddiadau fel y Global Seafood EXPO yn ein helpu i hyrwyddo hynny.

“Mae amrywiaeth ragorol o gynhyrchwyr Bwyd Môr arloesol iawn yng Nghymru ac mae eu brandiau’n enwog ledled y byd am eu hansawdd uchel ac am fod yn gynaliadwy.  Hefyd, mae gan lawer o gynnyrch o Gymru statws Enw Bwyd Wedi’i Amddiffyn (PFN), yn eu plith, Halen Môn.

“Drwy weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant, ein nod yw cynyddu gwerth diwydiant Bwyd a Diod Cymru 30% i £7 biliwn erbyn 2020.  Mae mynd i ddigwyddiadau fel hyn yn rhoi llwyfan rhyngwladol i ni arddangos cynhyrchion gorau Cymru ynghyd â chodi proffil ein brand.”

Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn un o brif sectorau blaenoriaeth economaidd Llywodraeth Cymru ac mae pysgodfeydd yn chwarae rhan bwysig yn hyn o beth.  Rydym yn cefnogi’r sector pysgodfeydd er mwyn datblygu a symud i gyfeiriadau mwy cadarnhaol, gan fanteisio ar dechnolegau a datblygiadau newydd ym maes ymchwil a datblygu er mwyn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran cynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Yn 2015, roedd sector pysgod cregyn Cymru yn werth £12 miliwn ac mae tua 80 y cant o fwyd môr Cymru yn cael ei allforio i’r cyfandir lle rhoddir gwerth uchel iawn iddo.  Fel rhan o’r strategaeth hirdymor ar gyfer datblygu pysgodfeydd Cymru, byddwn yn helpu i ddiogelu, cefnogi ac annog y diwydiant.

Share this page

Print this page