Derbyniodd naw gŵyl bwyd a diod ledled Cymru arian gan Lywodraeth Cymru i helpu cefnogi eu digwyddiadau a chryfhau enw da Cymru am gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel, yn y cylch cyntaf o geisiadau a dderbyniwyd cyn diwedd mis Mai.

Bydd yr arian yn helpu arddangos y gorau o fwyd a diod Cymru i bobl sy’n byw yn ac yn ymweld â Chymru, trwy gefnogi’r naw gŵyl a gynhelir ar hyd a lled Cymru. Mae gwyliau bwyd yn chwarae rôl bwysig yn yr economi leol, gan ddenu ymwelwyr a chynnig llwyfan i gynhyrchwyr.

Bydd y cymorth ariannol o hyd at £5,000 yr ŵyl yn helpu codi proffil ansawdd uchel y bwyd a diod sydd gan Gymru i’w gynnig ac yn datblygu diwylliant bwyd prysur-dyfu’r wlad.

Wrth gyfeirio at y gefnogaeth ariannol a ddarparwyd, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru,

 “Mae gwyliau bwyd yn ddathliad o bopeth sy’n dda am fwyd a diod o Gymru. Rydym yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall gwyliau bwyd ei wneud i gryfhau a datblygu diwylliant bwyd bywiog yng Nghymru. Mae gwyliau bwyd hefyd yn denu miloedd o bobl i ganol ein trefi a phentrefi, ac yn rhoi hwb derbyniol iawn i fusnesau lleol a’r economi wledig.”

Y gwyliau bwyd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth ariannol iddynt yw:

  • Gŵyl Fwyd & Diod Y Bontfaen, Y Bontfaen (29/30 Mai 2016)
  • Gŵyl Fwyd Castell Newydd Emlyn, Castell Newydd Emlyn (11 Mehefin 2016)
  • Gŵyl Fwyd yr Haf Y Gelli Gandryll, Y Gelli Gandryll (1 Gorffennaf 2016)
  • Gŵyl Bwyd Môr Bae Aberteifi, Aberaeron (3 Gorffennaf 2016)
  • Gŵyl Afon & Bwyd Aberteifi, Aberteifi (6 Awst 2016)
  • Gŵyl Fwyd Arberth, Arberth (23-25 Medi 2016)
  • Gŵyl Fwyd Llangollen, Llangollen (15/16 Hydref 2016)
  • Gwyliau Fwyd y Gaeaf Y Gelli Gandryll, Y Gelli Gandryll (26 Tachwedd 2016)
  • Ffair Bwyd & Diod y Nadolig Y Fenni, Y Fenni (11 Rhagfyr 2016)


Mae mwy o fanylion ar gael yn http://businesswales.gov.wales/foodanddrink/food-tourism. Y dyddiad cau ar gyfer danfon ceisiadau a dogfennau ategol yw’r 14eg Gorffennaf 2016.

Share this page

Print this page