Pan ymddangosodd Mr John Edward Morgan, cynhyrchydd wyau o'r Canolbarth, gerbron Llys y Goron Abertawe ar 20 Medi mewn perthynas â chais a wnaed gan Lywodraeth Cymru o dan Ddeddf Enillion Troseddau 2002, rhoddwyd gorchymyn iddo ad-dalu £84,331.18 neu wynebu 12 mis o garchar.

Ym mis Ionawr eleni, roedd Mr Morgan wedi cael dedfryd o 18 mis o garchar, wedi'i gohirio am ddwy flynedd, ar ôl pledio'n euog i dwyll drwy wneud ymhoniadau anwir, a hefyd i drosedd reoleiddiol arall yn groes i Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010. Roedd Mr Morgan yn cynhyrchu wyau maes, gan wybod ei fod yn gweithredu'n groes i reoliadau ar gynhyrchu wyau. Roedd y dwysedd stocio'n uwch na'r hyn a bennir ar gyfer adar statws buarth ac nid oedd wedi cadw cofnod o faint o'r dofednod oedd wedi marw.

Gorchmynnodd y Llys i Mr Morgan dalu £5,000 mewn costau hefyd.

Diben atafaelu enillion troseddau yw atal troseddwyr rhag cael budd ariannol o'u gweithgareddau troseddol; eu hatal rhag cyflawni troseddau pellach; a rhoi llai o gyfle iddynt ariannu mentrau troseddol pellach. 

Mae Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, wedi dweud: "Mae'r swm yn un mawr ac yn ffordd bendant iawn o atgoffa pobl nad ydyn ni'n barod i oddef achosion o weithredu'n groes i'r rheolau ar farchnata wyau. Diben y rheolau manwl ar gynhyrchu wyau maes yw diogelu'r cyhoedd, sicrhau bod defnyddwyr yn gallu bod yn ffyddiog bod modd olrhain wyau maes a'u bod yn ddiogel i'w bwyta, a'u bod yn cael eu cynhyrchu yn unol â'r safon y maen nhw wedi talu amdani. Yn y pen draw, y rhai sy'n dioddef pan dorrir y rheolau yw'r bobl hynny sy'n defnyddio'r cynnyrch o ddydd i ddydd, ac nid yw hynny'n dderbyniol." 

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy'n gyfrifol am arolygu cynhyrchwyr wyau cofrestredig yng Nghymru gan gydymffurfio â Rheoliadau Marchnata Wyau CE 589/2008. Mae APHA ar gael i gynnig cyngor i gynhyrchwyr wyau neu i bobl sydd am arallgyfeirio i gynhyrchu wyau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau. Gallwch gysylltu ag APHA dros y ffôn ar 03003038268 neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon https://www.gov.uk/government/organisations/animal-and-plant-health-age…

 

 

Share this page

Print this page