Yn 2017, Cymru fydd yn cynnal y beirniadu ar y cynigion o Gymru ar gyfer Gwobrau Great Taste 2017.  Dyma’r ail dro i’r beirniadu ar gyfer y gwobrau ddigwydd yng Nghymru a bydd yn gyfle arbennig i hyrwyddo’r cyfoeth o gynhyrchion o ansawdd a blaengar a gynhyrchir yng Nghymru.

Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw (Dydd Mawrth, 1 Tachwedd) yn y digwyddiad Dathlu Great Taste ar gyfer enillwyr 2016 ym mae Caerdydd, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC,

“Mae Cymru’n falch iawn ei bod yn cynnal y beirniadu ar y cynigion bwyd a diod o Gymru ar gyfer y Gwobrau Great Taste yn 2017. Mae’n wirioneddol wych gweld fod cymaint o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi cael eu cydnabod yng Ngwobrau Great Taste 2016 ac mae’n dangos fod Cymru’n wlad a chanddi’r lefel uchaf o ansawdd ac arloesedd wrth gynhyrchu bwyd a diod.

Hoffwn yn fawr iawn gymryd y cyfle hwn i ddymuno’r gorau posib i’r holl gynigion o Gymru ac edrychaf ymlaen yn fawr iawn at ddathlu eu llwyddiant yn 2017.”

Mae sioe pen ffordd feirniadu Cymru yn rhan o broses feirniadu wyth wythnos pan fydd 10,000 o gynhyrchion o wledydd Prydain a thu hwnt yn cael eu hasesu gan gannoedd o feirniaid annibynnol, yn cynnwys ysgrifenwyr bwyd a choginio, chefs, prynwyr a pherchnogion bwytai.

Derbyniodd cyfanswm o 125 o gynhyrchion o Gymru anrhydeddau Great Taste, ac enillodd 96 cynnig 1-seren, derbyniodd 26  2-seren ac enillodd 3 yr anrhydedd 3 seren eithaf.  Ymhlith y detholiad elit o gynhyrchion bwyd a diod a dderbyniodd y meincnod cydnabyddedig ar gyfer y bwyd a diod gorau oedd seidr Dabinett Medium Apple County Cider, Caws Caerffili Cymreig Traddodiadol Bwyd Cymru Bodnant a mêl Raw Thyme Hilltop Honey.

Yn y digwyddiad a gynhaliwyd heddiw (1 Tachwedd) yng Ngwesty St David’s ym Mae Caerdydd, daeth cynhyrchwyr bwyd a diod o bob rhan o Gymru a lwyddodd i ennill y sêr aur prin yng ngwobrau pwysig y Great Taste at ei gilydd i arddangos eu cynnyrch arobryn.

O dan nawdd Ysgrifennydd Cabinet yr Amgylchedd a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, roedd y digwyddiad yn ceisio rhoi llwyfan i gynhyrchwyr arddangos eu cynnyrch ar lefel genedlaethol, yn ogystal â dathlu llwyddiant y cynhyrchwr. Roedd prynwyr bwyd blaenllaw o’r prif archfarchnadoedd, siopau adrannol moethus, siopau delicatessen arbenigol a’r sector cyhoeddus oll yn bresennol ac yn awyddus i flasu’r gorau o’r hyn sydd gan fwyd a diod o Gymru i’w gynnig.

Roedd y cwmnïau buddugol oedd yn bresennol yn cynnwys Blas ar Fwyd, Calon Wen, Cathryn Cariad Chocolates, Gower View Foods, Llaeth y Llan/Village Dairy, Radnor Preserves, Selwyn’s Seafoods, Cwmni Caws Eryri, The Patchwork Traditional Food Company, The Traditional Welsh Sausage Company (Edwards o Gonwy), Welsh Speciality Foods, ymhlith eraill.

Roedd Nigel Barden, Cadeirydd y Beirniaid yng ngwobrau uchel eu parch y Great Taste, a drefnir gan y Guild of Fine Food, wrth ei fodd gyda chryfder yr enillwyr o Gymru yng ngwobrau’r GTA eleni,

“Mae gwobr Great Taste, boed yn un, yn ddwy neu’n dair seren, yn gamp ryfeddol ac yn arwydd pendant o ansawdd a rhagoriaeth. Mae safon y cynigion o Gymru’n gyson uchel ac mae’n adlewyrchu’r ymrwymiad y gwelir mwy a mwy ohono i fwyd a diod o’r radd flaenaf o Gymru.

Byddwn wrth fy modd pe bai mwy fyth o gynhyrchwyr o Gymru’n rhoi cynnig ar Wobrau’r Great Taste yn 2017, gan fod achrediad GTA yn cynnig llwyfan amhrisiadwy i gynhyrchwyr a gwerthwyr. Mae’r sticer GTA du ac aur yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol, gan ei wneud yn arf marchnata rhagorol ym mhedwar ban byd.”

Bob blwyddyn, trefnir y Gwobrau Great Taste gan y Guild of Fine Food ac maent ymhlith y cynlluniau gwobrau profion dall mwyaf yn y byd. Mae sêr aur yn feincnodau cydnabyddedig ar gyfer cynhyrchion bwyd a diod arbenigol. Golyga un seren fod y cynnyrch yn ‘agos at berffaith’ tra bod dwy seren yn arwydd fod y cynnyrch yn ‘ddifai’ ac ystyr tair seren yw ‘Waw, mae’n rhaid ichi flasu hwn’.

Mae enillwyr yn mynd trwy brofion llym gan fwy na 400 o feirniaid uchel eu parch yn y diwydiant, gan gynnwys y chefs gorau, perchnogion bwytai ac ysgrifenwyr bwyd blaenllaw i ennill eu sêr aur. Mae’r beirniaid yn profi’r cynhyrchion yn ddall, sy’n golygu fod y cynllun gwobrau hwn yn seiliedig ar ddim byd mwy na Blas Gwych – ‘Great Taste’.

Gellir cyflwyno cynigion ar gyfer Gwobrau Great Taste 2017 gan aelodau o 18 Ionawr 2017 a gwahoddir cynigion cyffredinol o 1 Chwefror 2017.

Share this page

Print this page