Mae rheoli busnes bwyd a diod cynaliadwy yn gynyddol bwysig o ystyried gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru i adeiladu diwydiant bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru ac, wrth gwrs, ei nod o gyrraedd statws Sero Net erbyn 2030.

Maddeuer i chi am feddwl mai'r amgylchedd yw'r cyfan – ac, i raddau, mae hynny’n wir, ond mae’n ymwneud â llawer mwy na hynny. Mae’n ymwneud â phobl – yn weithwyr cyflogedig ac yn ddefnyddwyr. Mae busnesau 'cynaliadwy' da am fuddsoddi yn lles eu pobl ac mae gan gwsmeriaid ddiddordeb cynyddol mewn arferion cynaliadwy o fewn busnes. Mae prynwyr masnach eisiau cwmnïau â rhinweddau cynaliadwy ac, er mwyn llwyddo, rhaid i fusnesau aros ar y blaen.

Un cwmni sydd eisoes wedi manteisio ar yr Hyfforddiant ar Gynaliadwyedd gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yw Prima Foods UK Ltd.

Sefydlwyd y cwmni ym 1988 ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu siwed, twmplenni wedi'u rhewi'n gyflym, a rhannau o brydau wedi'u coginio â stêm. Yn swatio’n gyfforddus yng nghanol Dafen ger Llanelli, mae’r cwmni wedi ymrwymo i weithio gyda’i gymuned a’r holl bartneriaid yn ei gadwyn gyflenwi tuag at greu economi gylchol am ddyfodol cynaliadwy.

Rhannodd Peter Rice, Rheolwr Gyfarwyddwr Prima Foods, ei feddyliau yn dilyn yr hyfforddiant ac ymhelaethodd ar sut mae'r cwmni wedi elwa.

Yr hyn a roddodd y cwrs i ni oedd y gallu i fesur yr hyn rydyn ni’n ei wneud a gweithio allan, mewn gwirionedd, le'r ydyn ni ar ein taith,” meddai Peter.

Eglurodd Peter mai’r cam cyntaf oedd cwblhau archwiliad amgylcheddol trwy edrych ar sut mae Prima Foods yn rhedeg y ffatri a sut mae’n effeithio ar y gymuned a’r blaned.

Ychwanega: “Nid dim ond gofalu am yr amgylchedd yw gweithredu mewn ffordd gynaliadwy, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau eich bod yn gwneud pethau mewn ffordd gynaliadwy ac yn gwneud elw mewn ffordd gynaliadwy hefyd.”

Ers cwblhau'r cwrs, mae'r cwmni wedi penodi ei dîm Cynaliadwyedd ei hun.

Mae gwefan y cwmni wedi'i diweddaru i gynnwys tudalen ar gynaliadwyedd sy'n amlinellu ei amcanion a'i gynlluniau.

Yn ôl Peter: “Mae'n hollbwysig bod negeseuon am gynaliadwyedd ar gael i ddefnyddwyr a rhanddeiliaid allweddol eu gweld. Mae cyfathrebu eich stori yn cryfhau eich safle yn y farchnad ac yn ennill ymddiriedaeth a theyrngarwch gan eich cwsmeriaid.”

Mae'r cwmni'n hyfforddi ei weithwyr yn barhaus ac, ym mis Mehefin 2024, cwblhawyd archwiliad y Ddraig Werdd a chyflawnwyd achrediad Lefel 1. Mae hyn yn paratoi’r cwmni’n dda i symud ymlaen i Lefel 2.

Yn ôl Peter: “Yn ôl ym mis Chwefror 2024, buddsoddodd y cwmni £140k mewn prosiect paneli solar cam 1 ac mae bellach yn cynhyrchu 10–15% o’i ynni o’r ffynhonnell adnewyddadwy hon. Mae Cam 2 ar gyfer swm tebyg wedi'i gynllunio ar gyfer 2026.

“O fis Gorffennaf 2024, mae’r holl drydan sy’n cael ei gyflenwi i’r safle yn dod o ffynhonnell adnewyddadwy ac mae adolygiad o’r datganiad a pholisïau EDI yn cael ei gynnal yn ystod 2024.”

Yr ymrwymiad i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd yw un o'r sbardunau y tu ôl i'r Hyfforddiant ar Gynaliadwyedd a ddarperir gan Sgiliau Bwyd a Diod Cymru. Mae'r rhaglen hyfforddi hon sydd wedi'i hariannu'n llawn wedi'i phrofi i roi'r sgiliau a'r wybodaeth i berchnogion a rheolwyr i ddatblygu cynlluniau ymarferol sy'n ymateb i newid hinsawdd – yn ogystal â bodloni anghenion cwsmeriaid.

Mae cynaliadwyedd yn bwnc enfawr a chanddo linynnau amlhaenog, a gall meddwl am ddatblygu eich arferion busnes i gwrdd â safonau cyfreithiol rwymol fod yn frawychus.

Er mwyn eich helpu ar eich taith, mae Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn cynnig Hyfforddiant ar Gynaliadwyedd (rhagarweiniol) sy'n ymdrin â'r holl gysyniadau, deddfwriaeth a therminoleg allweddol megis Sero Net, Nodau DC y Cenhedloedd Unedig a'r Economi Gylchol – beth ydyn nhw a beth maen nhw’n yn ei olygu i chi? Yn ogystal, mae’r hyfforddiant yn ymdrin â sut i roi’r rhain ar waith yn eich busnes a pham ei bod yn gwneud synnwyr masnachol i wneud hynny.

Aeth Peter ei hun i’r hyfforddiant, a ddarparwyd gan EcoStudio a Cynnal Cymru, a byddai'n ei argymell yn fawr i fusnesau eraill. 

Os hoffech archwilio sut i integreiddio dulliau mwy cynaliadwy o weithio yn eich cynlluniau gweithredu a dangos cynnydd diriaethol fel y profwyd gan Prima Foods, cysylltwch â ni heddiw. Bydd y cwrs nesaf yn dechrau ym mis Ionawr 2025.

skills-wales@mentera.cymru

Share this page

Print this page