Rhaglenni cymorth
Mae digon o ffyrdd y gallwn helpu’ch busnes i ddatblygu, gan gynnwys cynnig cymorth a chyllid i wella cynhyrchedd, amrywiaeth ac effeithlonrwydd, ac ychwanegu gwerth i’ch cynnyrch.
Byddwn yn eich helpu gyda throsglwyddo gwybodaeth ac arloesi, hybu cystadleurwydd - i gyd gyda phwyslais ar annog cynaliadwyedd a defnyddio adnoddau naturiol.
AM DDIM: Cyngor Adnoddau Dynol
Ydych chi angen cyngor Adnoddau Dynol o ganlyniad i argyfwng covid -19?
Mae Mabis yn cynnig cymorthfeydd AD 30 munud o bell i unrhyw fusnes mewn unrhyw sector yng Nghymru mewn meusydd megis:
- Cynllyn Cadw Swyddi Coronafeirws ('furlough')
- diswyddo
- newid telerau ac amodau cyflogaeth, e.e. lleihau oriau
- tips iechyd, lles a diogelwch gweithio gartref
- rheoli perfformiad i gadw cymhelliant ac ymgysylltiad staff yn ystod yr argyfwng
I drefnu eich apwyntiad ffon 30 munud, e-bostiwch mabis.hr@menterabusnes.co.uk gyda chrynodeb byr o beth hoffech drafod a bydd un o'u Hymgynghorwyr AD mewn cysylltiad.
Pecyn Cymorth Coronafeirws Gwerth £330 Biliwn
Ddydd Gwener 20 Mawrth, amlinellodd y Canghellor, Rishi Sunak, becyn o fesurau er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, pobl a busnesau drwy’r ansicrwydd a achosir gan y feirws COVID-19. Cyhoeddwyd mesurau pellach ar 26 Mawrth i gefnogi pobl hunangyflogedig. Mae’r daflen wybodaeth yma – a ddatblygwydmewn partneriaeth a Chyfrifwyr Llŷr James – yn amlinellu’r cynlluniau cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru
Cynllun benthyciadau ymyrraeth busnes (CBYB)
(Saesneg yn unig)
Mae'r CBYB yn gynllun newydd sy'n gallu darparu cyfleusterau hyd at £5m ar gyfer busnesau llai ledled y DU sy'n profi refeniw coll neu ohiriedig, gan arwain at darfu ar eu llif arian parod. Mae'r CBYB yn cefnogi amrywiaeth eang o gynhyrchion cyllid busnes, gan gynnwys benthyciadau tymor, gorddrafftiau, cyllid anfonebau a chyfleusterau cyllid asedau.
CBYB - Rhestr wirio (Saesneg yn unig)
CBYB - Inffograffeg (Saesneg yn unig)
CBYB - Ar gael i fusnesau llai ledled y DU (Saesneg yn unig)
Sgiliau Bwyd Cymru
Amlinelliad o'r Prosiect
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau sy’n y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod Cymreig er mwyn sicrhau bod y sgiliau a’r hyfforddiant cywir gan weithwyr fydd yn cryfhau’r diwydiant cyfan. Gan weithio ym mhob sector, bydd yn helpu paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu ar gyfer heriau’r dyfodol a heriau amgylcheddol a’u rhoi mewn lle da i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu a thyfu eu busnes.
Bydd busnesau cymwys sydd eisiau cymorth gan y rhaglen yn gwneud cais drwy gwblhau Teclyn Diagnostig Sgiliau wyneb yn wyneb gydag aelod o dîm Sgiliau Bwyd Cymru. Bydd hyn yn helpu’r busnes i nodi unrhyw fylchau sgiliau a rhoi cynllun hyfforddi wedi ei deilwra ar waith. Yna gall busnesau ymgeisio am gyllid er mwyn helpu gyda’r gost o gwblhau unrhyw gyrsiau hyfforddi.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd gyda phrosiectau eraill sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru fel Prosiect Helix a Cywain i sicrhau bod busnesau’n cael y gefnogaeth gywir sydd wedi ei theilwra i’w hanghenion penodol nhw.
Rhaglen 3 blynedd yw hon a daw i ben ym mis Medi 2021.
Amlinelliad o'r Prosiect Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Lantra
Ffôn: 01982 552646
Mae Lantra wedi cael cyllid gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru.
Prosiect HELIX
Cymorth technegol a masnachol a ariennir i gynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru
Mae Prosiect HELIX yn darparu cymorth technegol a masnachol a ariennir i gynhyrchwyr bwyd a diod cymwys yng Nghymru. Mae gan gwmniau fynediad i gymorth pwrpasol gan Ganolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE yn cyflogi technolegwyr bwyd a diod profiadol, arbenigwyr busnes ac academyddion sy'n arbenigo ym mhob agwedd ar ymchwil bwyd, diod, arloesi, prosesu, gweithgynhyrchu, masnachol, gweithredol a thechnegol.
I cael gwybod sut y gall ZERO2FIVE gefnogi eich busnes chi, cysylltwch a:
02920 416306
CYWAIN
Mae Cywain yn rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddatblygu busnesau micro a busnesau bach a chanolig newydd neu sydd eisoes yn bodoli yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae Cywain (sy’n golygu i gasglu neu i gynaeafu), yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfleoedd a’r potensial i dyfu.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a:
Mae Cywain yn rhaglen sydd wedi ymrwymo i ddatblygu busnesau micro a busnesau bach a chanolig newydd neu sydd eisoes yn bodoli yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Mae Cywain (sy’n golygu i gasglu neu i gynaeafu), yn canolbwyntio ar wneud y mwyaf o gyfleoedd a’r potensial i dyfu.
Gwneud Gwell Busnes - Cyfleoedd i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru mewn twf cyfrifol a gwyrdd
Mae Twf Gwyrdd yn gyfle arbennig i gwmnïau bwyd a diod gynhyrchu mwy o werthiant, lleihau costau, gwella proffidioldeb a sicrhau mwy o gyfran o’r frachnad drwy pwynt gwerthu unigryw. Gall Twf Gwyrdd sicrhau llwyddiant a thwf busnes hir dymor. Rhan hanfodol o hyn yw sicrhau effeithlonrwydd defnydd adnoddau, lleihau gwastraff wrth gynhyrchu, a thrwy hynny’n lleihau costau ac yn gwella proffidioldeb ymhellach.
Cronfa Cydnerthedd Brexit
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cronfa Cydnerthedd Brexit, gwerth £1 miliwn sydd ar gael i fusnesau Cymru, i'w helpu i addasu i'r newidiadau yn economi Cymru ar ôl Brexit.
Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfle i fusnesau cymwys i wneud cais am gyllid rhwng £10,000 a £100,000 hyd at 50% o gostau'r prosiect.
Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020
Mae gennym uchelgais fawr ar gyfer ein diwydiant. Gyda’ch cymorth chi, rydym yn dymuno cynyddu gwerthiant yn y sector bwyd a diod yng Nghymru 30% i £7 biliwn, a llunio Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig i’n helpu i wneud hynny rhwng 2014 a 2020.
Gallai’r cynllun hwn arwain at £953m o arian Ewrop a Llywodraeth Cymru’n dod i ardaloedd gwledig Cymru. Bydd hyn yn galluogi’r diwydiannau ffermio a choedwigaeth i wella cynhyrchedd, amrywiaeth ac effeithlonrwydd ac yn hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal â datblygiadau dan arweiniad y gymuned.
Grant Cefnogi Twf Busnes
Y Grant Cefnogi Twf Busnes yw cefnogi proseswyr a chynhyrchwyr bwyd a diod yng Nghymru gyda chyllid cyfatebol i ymgymryd â phrosiect sy’n galluogi twf y cwmni.
Mae'r Cynllun Grant yma wedi'i glustnodi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2015/2016.
Rydym yn gobeithio fydd y Cynllun yn ail-gychwyn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016/2017, ceir unrhyw wybodaeth pellach ar y wefan yma.
Pecyn Cymorth Busnes Ar-lein
Nod y Rhaglen Fusnes Datblygu Masnach yw galluogi i fusnesau yng Nghymru greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy drwy gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru gyda chefnogaeth benodol – mae’r Pecyn Adnoddau Busnes Cynaliadwy yn esiampl o’r gefnogaeth hon.
Mae’r pecyn adnoddau yn cynnwys cyfres o ganllawiau busnes sy’n addas i anghenion busnesau bach, canolig a mawr wrth iddynt ddatblygu eu busnes i greu twf mewn gwerthiant a chreu swyddi.
- Modiwl 1 – Dechrau Arni
- Modiwl 2 – Hwyluso Twf
- Modiwl 3 – Twf Drwy Farchnata
- Modiwl 4 – Rhagoriaeth Weithredol
- Modiwl 5 – Rheoli Perthnasoedd
- Modiwl 6 – Pwyso a Mesur ac Edrych Ymlaen