lady by machine

 

Arloesedd SMART


Rhaglen unigryw yw Arloesedd SMART sy’n cael ei harwain gan Lywodraeth Cymru a’i hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd. Unig nod y rhaglen yw helpu busnesau yng Nghymru i wneud yn well trwy fod yn fwy arloesol.

Gair mawr yw arloesedd – mae’n cael ei ddefnyddio’n rhy aml gan ormod o bobl, a’r gwir amdani yw ei fod yn gallu bod braidd yn niwlog. Ond rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar realiti na malu awyr: gwell cynhyrchedd sy’n cynyddu proffidioldeb trwy wneud pethau’n wahanol.

Ac rydym yn gwybod y gallwn helpu. Mae ein hystadegau pum mlynedd o 2015-2020 yn dangos ein bod ni o ddifrif.

  • Rydym wedi cyfrannu £150 miliwn o fuddsoddiad at brosiectau ymchwil a datblygu 
  • Mae mwy na 1,700 o brosiectau wedi dechrau gyda’n cymorth
  • …Ac rydym wedi bod yn allweddol wrth greu mwy na 350 o fusnesau a chydweithrediadau academaidd gan ysgogi £30 miliwn o ddiwydiant.

Ac mae arian ar ôl o hyd i wneud mwy o’r un peth, sy’n newyddion da i unrhyw un a hoffai fanteisio ar ffordd well o weithio, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gwneud ymdrech i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau.

Gobeithiwn ein bod wedi dal eich sylw oherwydd does dim dwywaith bod yr hyn rydym ni’n ei wneud yn gweithio. 

Mae Dr Neil Haine, Rheolwr Ymchwil a Datblygu yn CellPath yn y Drenewydd, yn un o lawer o gleientiaid bodlon, ac fe ofynnom iddo ddweud gair:

“Gyda chymorth Arloesedd SMART, rydym wedi gallu buddsoddi mewn peiriannau cwbl awtomataidd sydd wedi ein helpu i gyflogi 19 o bobl ychwanegol, gweld cynnydd 40% yn ein busnes allforio a chyflawni twf cyffredinol o 15%.”

Cefnogir y rhaglen hefyd gan Matt Newland, Rheolwr Gyfarwyddwr Swallow Yachts o Aberteifi, a ddywedodd: “Gyda chymorth arloesedd, fe aethom ni â chwch hwylio a enwebwyd am wobr o’r cam dylunio i realiti mewn 15 mis a chynyddu ei werthiannau allforio 20% mewn dwy flynedd.”

Dyma ein cynnig i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) a sefydliadau mwy o faint…

“Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth newydd, gwell neu gyflymach, fe helpwn ni chi i wneud hynny.”
Felly, peidiwch â meddwl nad yw’n addas i chi, cysylltwch nawr.

A yw eich busnes yn barod i ffynnu?

Y cam cyntaf yw llenwi’r ffurflen isod.

Fel arfer, o fewn 24 awr, bydd aelod o dîm Arloesedd SMART yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth am eich busnes, trafod eich anghenion ac esbonio’r cyfleoedd sydd ar gael i chi.

Ticiwch y blwch i gadarnhau yr ydych wedi darllen ac yn cytuno i delerau ein Rhybudd Preifatrwydd