robotic arm

Pam Arloesedd SMART?

Gadewch i ni siarad yn blaen, gair mawr yw ‘arloesedd’ sy’n golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Rydym wedi dysgu ei fod yn air annifyr i rai pobl hyd yn oed! Rydym yn gwybod ei fod yn un o’r termau hynny sy’n gallu ymddangos yn rhy aruchel i fod yn berthnasol neu’n rhy niwlog i fod yn ymarferol, ond y gwir yw bod unrhyw fusnes o unrhyw faint yn gallu elwa o fod yn arloesol.

Meddyliwch amdano…i fusnes newydd, gallai arloesedd olygu defnyddio technoleg i gychwyn syniad newydd; i fusnes sy’n datblygu, gallai olygu cymorth neu gefnogaeth i dyfu prosiect rydych yn gwybod y gall lwyddo; ac i fusnes sefydledig, gallai olygu cael gwybodaeth arbenigol i roi mantais ryngwladol i chi, neu agor marchnadoedd allforio newydd. I lawer o fusnesau, mae datgarboneiddio’n ystyriaeth hanfodol ar gyfer y dyfodol ac mae gennym ni ffyrdd o helpu gyda hynny hefyd.

Beth bynnag y mae arloesedd yn ei olygu i chi – mae Arloesedd SMART yn ffordd brofedig o’ch tywys trwyddo.

Rydym yn gwybod eich bod yn brysur, felly rydym yn gwneud hyn mewn pum cam rhwydd…
 

  1. Rydych yn cysylltu trwy ein ffurflen gyswllt
  2. Os gallwn helpu, bydd Arbenigwr Arloesedd yn trefnu apwyntiad i gyfarfod â chi
  3. Bydd yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun gweithredu arloesedd
  4. Byddwch yn adolygu, diwygio a chytuno ar y cynllun
  5. Ac yna bydd Arbenigwr Arloesedd yn cael ei neilltuo i chi
     

Mae pum cam a chynllun craff yn werth llawer mwy i chi na misoedd a blynyddoedd o brofi a methu sy’n ddrud, yn flinedig ac yn ddiangen. A byddwch ar eich ennill hefyd gan fod y cymorth hwn ar gael i chi am ddim trwy gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd – mae hynny’n sicr yn beth da oherwydd byddech fel arfer yn talu arian mawr am wasanaeth ymgynghori o’r math hwn.

A pheidiwch â phoeni os nad ydych yn un o gewri byd busnes ychwaith. Gall arloesedd olygu newidiadau bach hefyd a’r gwir amdani yw mai BBaChau yw mwyafrif y cwmnïau rydym yn eu helpu.
Dechreuwch eich taith arloesedd – cysylltwch heddiw (ffurflen gyswllt).


“Gall y tîm arloesedd ein rhoi ar y trywydd iawn ar yr adeg iawn mewn nifer o wahanol sectorau. Ni fyddem yn gallu gwneud hyn ar ein pen ein hunain ac mae’n wych cael cymorth tîm sector cyhoeddus gwirioneddol flaengar.”
Hugo Spowers, pensaer cwmni yn Riversimple.

Os ydych chi’n meddwl bod syniad gennych chi, ond nid ydych yn siŵr a yw eich busnes yn barod amdano, gall un o’n Harbenigwyr Arloesi eich ffonio i siarad amdano.

Gallwch ddarganfod a ydych yn gymwys am gymorth rhaglen Arloesedd SMART a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd yma a gadewch i ni eich helpu i arloesi. 

“Byddwn yn argymell i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am gymorth Arloesedd SMART gysylltu â’r tîm arloesi. Byddant yn dod atoch i drafod eich cynlluniau ac i weld sut gallant helpu – dyma’r ffordd orau i chi ddeall sut yn union gallant helpu eich busnes.”

Peter Webber, sef sefydlydd a chadeirydd Cell Path.

Gwnewch gais am Arloesedd SMART heddiw