GALWAD AM BROSIECTAU DATGARBONEIDDIO YMCHWIL A DATBLYGU

Mae rhaglen SMART Cymru Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr UE yn cynnig cyfle i fusnesau cymwys wneud cais am grant Datgarboneiddio newydd SMART Cymru i gyfrannu at archwilio dichonoldeb syniadau datgarborneiddio.  

Os oes gan eich busnes:


  • O leiaf 10 gweithiwr cyflogedig

  • Syniad i ostwng neu gael gwared ar garbon o gynhyrchion, prosesau neu dechnolegau

  • Gallech fod yn gymwyswch ymgeisio am gyllid hyd at £50,000 nawr nad oes modd ei ad-dalu
    *Mae meini prawf cymhwysedd eraill yn berthnasol

 

Cysylltwch â ni nawr i wneud cais am gyllid datgarboneiddio SMART Cymru.

Edrychwch i weld sut mae Arloesedd SMART eisoes wedi helpu RibRide ac Offshore Survival Systems ar eu teithiau datgarboneiddio:

 

Cwestiynau Cyffredin

Pwy all ymgeisio am y cyllid? 

Mae ceisiadau ar agor i fusnesau sydd am gynnal astudiaeth ddichonoldeb ac ymchwilio i ddichonoldeb trawsffurfio syniadau datgarboneiddio arloesol yn gynhyrchion, prosesau neu wasanaethau newydd.  

Am beth gallwch ddefnyddio’r cyllid?

Mae Arloesedd SMART yn chwilio’n benodol am syniadau arloesol sy’n anelu at: 

  • ostwng dwysedd carbon yr ynni sylfaenol a ddefnyddir gan gynnyrch, proses, gwasanaeth neu weithgaredd neu
  • ostwng effaith carbon defnyddio a/neu secwestru neu’r ddefnydd o garbon gan y cynnyrch, proses, gwasanaeth neu weithgaredd. 

Gall y cyllid dalu am hyd at 70% o gostau dichonoldeb a gall gael ei ddefnyddio dim ond am refeniw, nid costau cyfalaf. 

Cefnogir y cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop*. Y grant mwyaf yw £50,000 ac nid oes modd ei ad-dalu.

Pam fo dim ond y prosiectau sy’n ceisio gostwng carbon yn gymwys? 

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud hi’n ofynnol i Lywodraeth Cymru ostwng nwyon tŷ gwydr yng Nghymru gan o leiaf 80% erbyn 2050.

Ond mae’n fwy na bodloni targed: bydd gostwng ôl-troed Cymru o fudd i’n pobl, ein hamgylchedd naturiol a’n hecomi.   

Gyda’r disgwyliad y bydd yr economi carbon isel yn tyfu oddeutu 11% y flwyddyn tan 2030 – bedair gwaith yn gyflymach na chyfradd twf gyfartalog economi’r DU – mae’n fan cyffrous i fusnesau sy’n chwilio am sicrhau dyfodol eu gweithrediadau neu archwilio cynhyrchion neu wasanaethau newydd. 
 
Os oes gennych syniad arloesol i wneud rhywbeth newydd, yn well neu’n gyflymach, nad yw’n gysylltiedig â datgarboneiddio, ewch i’n prif dudalennau Arloesedd SMART er mwyn cael at gefnogaeth ac arbenigedd arloesi arbenigol. 

Pam fo cymorth ariannol yn cael ei gynnig? 

Mae gan fusnesau yng Nghymru ran enfawr i’w chwarae yn ein helpu i ddod yn genedl carbon isel ond deallwn nad oes gan bob busnes yr amser na’r arian sy’n ofynnol ar gyfer ymchwil a datblygu.   

Gyda hyd at 70% o gostau yn cael eu cwmpasu gan y cyllid newydd, cynigiwn ffordd risg isel a chost isel i brofi syniadau a chysyniadau datgarboneiddio.   

Fodd bynnag, mae cymorth ariannol gan SMART Cymru ond yn rhan o’r cynnig gan Arloesedd SMART. Mae ei dîm o arbenigwyr yn cynnwys peiranwyr, gwyddonwyr, arbenigwyr IP a rheolwyr masnacheiddio. Gyda degawdau o arbenigedd yn y maes, gallant fod ar law gymaint, neu cyn lleied, ag sydd ei angen.  

A fydd rhaid i mi ad-dalu’r arian os na fydd y syniad yn cael ei ddatblygu?

Na fydd, nid oes rhaid ad-dalu’r cyllid. Rydym wedi darparu cymorth arloesedd i fusnesau am ddegawdau a’n nod yw helpu busnesau i symud yn agosach at wireddu eu synidau neu allu eu disgowntio nhw, a pheidio â phoeni – beth os? 

Os yw’r astudiaeth ddichonoldeb yn profi bod syniad neu gysyniad yn werth eu cynnal, bydd cymorth ychwanegol ar gael ar gyfer camau ymchwil a datblygu pellach a datblygiad arbrofol er mwyn gyrru’r arloesedd hwnnw yn ei flaen. 

A wyf yn gymwys?

  • Rhaid bod gan fusnesau o leiaf 10 gweithiwr cyflogedig (yn achlysurol, mae’n bosibl ystyried busnesau sydd â llai na 10 gweithiwr cyflogedig ond bydd rhaid iddynt ddangos potensial twf amlwg e.e. trwy fod ar y Rhaglen Twf Carlam)
  • Rhaid i astudiaethau dichonoldeb arfaethedig fod yn gysylltiedig â phrosiect ymchwil a datblygu ‘Datgarboneiddio’.

Beth sydd rhaid i mi wneud nesaf?

Cwblhewch y ffurflen gyswllt yma, neu ffoniwch brif dîm Busnes Cymru ar 03000 6 03000 a gofynnwch am gyllid datgarboneiddio SMART Cymru.

Byddwch yn cael eich paru ag arbenigwr arloesedd a fydd yn ymweld â’ch busnes i drafod eich syniad a’ch llywio trwy’r ffurflen gais am gyllid.  

Galwad gystadleuol yw hon a fydd yn cau ar 31 Ionawr 2021. 

Cyhoeddir y penderfyniadau erbyn 31 Mai 2021. 

Cadwch lygad ar wefannau Arloesedd SMART am gyhoeddiadau ariannu pellach neu, os oes gennych syniad arloesedd y mae angen cefnogaeth ar ei gyfer, gallwch gysylltu ag un o’n harbenigwyr arloesedd trwy brif dudalen gyswllt Arloesedd SMART yma


* Mae Llywodraeth y DU wedi gwarantu cyllid ar gyfer prosiectau ERDF (Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop) tan i’r rhaglenni gau.

Cwblhewch y ffurflen gyswllt yma, neu ffoniwch brif dîm Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Ticiwch y blwch i gadarnhau yr ydych wedi darllen ac yn cytuno i delerau ein Rhybudd Preifatrwydd