man working

Cymorth arloesi’n rhoi hwb i gynhyrchiant, allforio a thwf blynyddol o 15% yn CellPath

Ar ôl cael help gan Arloesedd SMART, llwyddodd CellPath i:

  • Sicrhau cyllid i brynu peiriannau sydd wedi’u hawtomeiddio’n llawn, sydd wedi gwella cynhyrchiant
  • Cofnodi twf o 15% y llynedd a chyflogi 19 aelod staff newydd ers dechrau 2018
  • Cyflawni cynnydd o 40% mewn archebion o ranbarthau allforio y llynedd.

Mae CellPath yn enghraifft wych o fusnes yng Nghymru sy’n defnyddio arloesedd i ymateb i gystadleuaeth o ranbarthau gweithgynhyrchu â chostau isel. Gan weithio gyda rhaglen Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, mae CellPath wedi meithrin diwylliant sy’n canolbwyntio ar ymchwil a datblygu yn ei hanfod, a chyflwyno cynhyrchiant a gwerthiant gwell.

Mae CellPath yn cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau i’r sector patholeg celloedd, ym meysydd histoleg a cytoleg yn bennaf. Histoleg yw ymchwilio i gelloedd niferus sy’n dod o fiopsïau, tra bod profion cytoleg, fel rhai o brofion ceg y groth, yn dadansoddi celloedd unigol. Mae CellPath yn cynhyrchu cynhyrchion hanfodol ar gyfer y profion hyn – o’r cemegau sydd eu hangen er mwyn prosesu samplau labordy i’r sleidiau y mae patholegwyr yn eu defnyddio i’w harchwilio sydd, yn y pen draw, yn helpu meddygon i roi diagnosis a thriniaeth i ganser.

Woman working

Hefyd, ers 2003, mae’r cwmni, sydd wedi’i leoli yn y Drenewydd, wedi cynnig gwasanaeth rheoli archifau ar gyfer sleidiau a blociau patholeg celloedd a deunyddiau cysylltiedig.  

Trodd CellPath at SMART Innovation i’w helpu i sicrhau cyfarpar histoleg er mwyn ei alluogi i dreialu cynhyrchion newydd yn y labordy. Hefyd, awgrymodd y tîm SMART Innovation y gallai CellPath awtomeiddio ei allbwn gweithgynhyrchu, a arweiniodd at wneud cais am ragor o gyllid i brynu braich robotig a pheiriant mowldio chwistrellu. 

Dywedodd cyfarwyddwr ymchwil a datblygu CellPath, sef Dr Neil Haine: “Mae diagnosis canser yn faes heriol sy’n symud yn gyflym. Rydym ni eisiau datblygu’r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion a gwasanaethau, gan ddarparu perfformiad gwell o ran diagnosis canser ac amseroedd dychwelyd byrrach.

“Cyfeiriodd SMART Innovation ni at gyllid, a arweiniodd at brynu cyfarpar newydd i brofi cynhyrchion mewn labordy, yn ogystal â phrynu peiriannau sydd wedi’u hawtomeiddio’n llwyr, a wellodd ein cynhyrchiant, a'n galluogi i greu cynnyrch o ansawdd uwch am yr un gost â rhanbarthau sydd â chostau gweithgynhyrchu isel, fel Tsieina.

“Mae’r peiriant yn gweithio ddydd a nos, ac mae wedi’n helpu i gyflawni cynnydd o 40 y cant yn ein harchebion o ranbarthau allforio y llynedd, yn ogystal ag ailhyfforddi staff i gyflawni rolau sydd â gwerth a chyflog uwch.”

Mae llwyddiannau’r busnes yn dweud y cyfan. Cafodd CellPath dwf o 15 y cant y llynedd, ac mae wedi cyflogi 19 aelod staff newydd ers dechrau 2018.

Ychwanegodd Peter Webber, sef sefydlydd a chadeirydd CellPath: “Mae’r farchnad diagnosteg canser yn tyfu 8 i 10 y cant bob blwyddyn, felly mae’n hanfodol ein bod yn dal i fyny â’r twf hwn er mwyn sicrhau y gallwn fodloni anghenion ein cwsmeriaid – ac rydym wedi llwyddo i gyflawni hyn yn sgil y cymorth a gawsom gan SMART Innovation. Mae’r tîm o Arbenigwyr Arloesi yn broffesiynol, yn barod i helpu ac yn hapus i gynnig cymorth neu gyngor ynghylch pa gronfeydd sydd ar gael a beth yw’r ffordd orau o’u defnyddio.

“Byddem yn argymell i unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am gymorth SMART Innovation gysylltu â’r tîm arloesi. Byddant yn trafod eich cynlluniau gyda chi ac yn gweld a allant eich helpu, a sut – dyma’r ffordd orau i chi ddeall sut yn union y gallant gefnogi eich busnes.”

Cellpath case study Cymraeg
Cellpath case study Cymraeg