Yr Arian

Arian i fusnesau allu arloesi a chymryd yr holl gamau ymchwil a datblygu, o ystyried ymarferoldeb syniad i’w roi ar y farchnad.

Gallwn eich helpu i dalu am eich gwaith arloesi ac i rannu’r risg wrth gynnal gwaith ymchwil a datblygu.

Mae arian ar gael ar gyfer yr holl gamau ymchwil a datblygu, o ystyried ymarferoldeb syniad i’w roi ar y farchnad:

  • Ystyried Ymarferoldeb Technegol a Masnachol: Eich helpu i asesu a oes dyfodol technegol a masnachol i’ch syniad.
  • Ymchwil Ddiwydiannol: Help i gynnal ymchwil ymarferol ac i ddatblygu modelau gwaith sylfaenol.
  • Datblygu Arbrofol: Defnyddio canlyniadau’r ymchwil ddiwydiannol i greu prototeipiau cyn dechrau cynhyrchu.
  • Cael y Gorau o’r Cynnyrch: Helpu â chost lansio’ch cynnyrch/proses ar y farchnad.

Talebau Arloesi

Gallwch ddefnyddio’n Talebau Arloesi i:

  • dalu am offer cyfalaf i gefnogi newid technolegol
  • gofyn am gyngor ymgynghorydd technegol o’r sector preifat
  • gweithio gyda phrifysgolion a cholegau i ddatrys problemau technegol
  • Gwella prosesau dylunio a gweithgynhyrchu
  • defnyddio gwasanaethau arbenigol i gofrestru eiddo deallusol (IP)

Gallwn eich helpu i geisio am arian oddi wrth sefydliadau eraill o Brydain ac Ewrop – gweler y tab Cymorth Ychwanegol am fwy o wybodaeth.