Jennifer Barnfield

Mae Jennifer Barnfield yn ymarferydd Meddylfryd Positif a Gweledigaethol arweiniol sy’n arbenigo mewn cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig fel ei gilydd.
Mae hi’n siaradwr cyhoeddus ysbrydoledig, yn awdur sydd wedi bod ar frig y graddfeydd gwerthiant, yn gyn-enillydd dawnsio iâ Prydeinig, Cymreig ac Albanaidd, ac yn enillydd medal arian ryngwladol. Yn ddiweddar gweithiodd yn Saudi Arabia i’r Teulu Brenhinol ar ddigwyddiad yn ymwneud â chanolfan sglefrio yn yr anialwch, sydd wedi ennill gwobrau.
Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad o helpu i greu meddylfryd hyderus a buddugoliaethus, gwybodaeth eang a'r gallu i feithrin cyfathrebu effeithiol a chadarnhaol, mae Jennifer bellach yn helpu entrepreneuriaid a pherchnogion busnes i deimlo wedi’u grymuso’n llwyr er mwyn cyfathrebu, cefnogi ac arwain cwsmeriaid. Heb yr angen am amser sgrin, mae hi’n addysgu’r broses o greu deciau cardiau pwrpasol, yn cyflwyno'r cydsyniad o lif incwm lled-oddefol a sut i wella cysylltiad cleient â mwy o gwsmeriaid.

Yn 2017 creodd Jennifer The PEPP Method™ (positifrwydd, hawl, pŵer, cynhyrchiant), dull sy’n defnyddio’r ddealltwriaeth wyddonol a chyfannol o feddwl cadarnhaol a datblygu meddylfryd positif.

Dechreuodd Affirmation Cards For Kids i helpu’r plant ieuengaf wella eu hagwedd bositif tuag at iaith a chario a dal ar y wybodaeth a’r meddylfryd pwerus hwn trwy gydol eu bywyd.
Mae Jennifer hefyd yn Fentor Busnes Cymru ac wedi cael ei chynnwys yn Top Santè, Baileys Global Commercials, Manchester Evening News, Business News Wales ac wedi siarad am iechyd meddwl ar Radio Aire, Radio Iechyd y DU a’r orsaf radio BGM Radio sy’n gwasanaethu ysbytai. Mae hi hefyd yn entrepreneur sydd wedi ennill gwobrau ac wedi derbyn dyfarniad y 100 Menyw Fusnes Gorau yng Nghymru ddwywaith (yn 2018 a 2019) a chyrhaeddodd rownd derfynol gwobrau’r ‘North West Positive Awards’.
Nid yw hi byth yn rhoi’r gorau i fod yn ysgogiadol, ond pan nad yw’n gweithio, mae hi wrth ei bodd yn cerdded ar hyd traethau, treulio amser gyda’i theulu a pharhau i gynnig cefnogaeth gadarnhaol a dyrchafol trwy eiriau, negeseuon testun ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.


 

Business top-tip

Bydd pethau yn dwyn eich sylw o hyd, eich dewis chi yw p’un a fydd hynny’n amharu arnoch. Os yw rhywun arall o bosib yn debyg i chi neu eich bod yn teimlo nad ydych yn datblygu’n ddigon cyflym, cofiwch hyn. Peidiwch â chymharu eich blwyddyn gyntaf chi i bumed flwyddyn rhywun arall. Rhedwch eich ras eich hun, nid dyblygiad ydych chi. Rydych chi’n unigryw ac ni ellir cael copi ohonoch.

Jennifer Barnfield
Jen
  • Full name:
    Jennifer Barnfield
  • Business name:
    PEPP Limited
  • Role:
    Sylfaenydd
  • Location:
    De Cymru