People and producers in a room tasting Welsh Wine

Mae gwinllannoedd Cymru yn paratoi'n eiddgar ar gyfer Wythnos Gwin Cymru 2025, dathliad o ansawdd ac amrywiaeth eithriadol gwinoedd sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.

Bellach yn ei phumed flwyddyn, bydd Wythnos Gwin Cymru yn digwydd o 30 Mai i 8 Mehefin. Bydd y digwyddiad wythnos o hyd hwn yn tynnu sylw at ymroddiad ac angerdd gwinllannoedd Cymru, gan gynnig amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyffrous o deithiau gwinllannoedd, sesiynau blasu, sesiynau cwrdd â'r cynhyrchwyr, cynigion arbennig a dathliadau i selogion gwin a'r cyhoedd.

Trefnir Wythnos Gwin Cymru gan Glwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru, rhan o fenter clystyrau Llywodraeth Cymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â chynhyrchwyr diodydd a gwinllannoedd i hyrwyddo'r diwydiant a'i gynhyrchion o'r radd flaenaf.

Dywedodd Richard Morris o Ancre Hill Estates: 

“Mae diwydiant gwin Cymru wedi bod yn tyfu dros y 10 mlynedd diwethaf ac mae'n dod yn rhan annatod o economi Cymru. Mae Wythnos Gwin Cymru yn cynrychioli moment hollbwysig i Ddiwydiant Gwin Cymru, ac yn taflu goleuni ar ansawdd eithriadol a chymeriad unigryw ein gwinoedd. Mae'n amser pan ddown ynghyd i ddathlu ffrwyth ein llafur a'r gydnabyddiaeth gynyddol o Gymru fel rhanbarth cynhyrchu gwin nodedig. Mae'r wythnos yn ymwneud â mwy na gwin yn unig; mae'n ymwneud â chymuned, diwylliant, a'r ymdrech ar y cyd i ddyrchafu gwinwyddiaeth Cymru ar lwyfan y byd.”

Mae diwydiant gwin Cymru wedi gweld twf a llwyddiant rhyfeddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda thua 50 o winllannoedd bellach yn gweithredu ledled y wlad, mae Cymru wedi sefydlu ei hun fel cynhyrchydd arloesol o winoedd o ansawdd uchel ac mae'n dod yn enwog am winoedd arddull bwtîc sy'n defnyddio grawnwin sy'n addas ar gyfer hinsoddau oerach.

Mae'r gwinllannoedd sy'n cymryd rhan yn llawn cyffro ynghylch agor eu drysau i'r cyhoedd, a chynnig cipolwg y tu ôl i'r llenni ar eu gwaith.

Dywedodd Gwen Davies o Winllan y Dyffryn: 

"Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o Wythnos Gwin Cymru 2025. Mae'r digwyddiad hwn yn caniatáu inni rannu ein hangerdd dros wneud gwin gyda chynulleidfa ehangach ac arddangos ansawdd eithriadol gwinoedd Cymru. Mae diwydiant gwin Cymru yn golygu llawer iawn i ni, gan ei fod yn cynrychioli nid yn unig ein bywoliaeth ond hefyd ein gwlad hardd a'n hymrwymiad i amaethyddiaeth gynaliadwy.

Mae Wythnos Gwin Cymru yn gyfle unigryw i ni gysylltu â selogion gwin, eu haddysgu am ein prosesau, a dathlu llwyddiannau cyfunol gwinllannoedd Cymru. Edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr i'n gwinllan a rhannu ein stori.”

Mae microhinsoddau a thirweddau unigryw Cymru yn cynnig amodau delfrydol ar gyfer tyfu amrywiaeth o rawnwin, sy’n arwain at winoedd coch, rhosliw, gwyn a phefriog arobryn. Mae'r diwydiant hefyd yn chwarae rhan gynyddol yn yr economi ymwelwyr, gyda llawer o winllannoedd yn dod yn gyrchfannau twristaidd poblogaidd.

Mae Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r diwydiant, gyda'r nod o gynyddu gwerth y sector ddeg gwaith i £100 miliwn erbyn 2035. Mae'r diwydiant diodydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru, gyda throsiant o dros £800m, gwerth gwerthiant manwerthu Cymru o dros £950m, ac mae'n cyflogi 12,000 o bobl.

Bydd y dathliadau wythnos o hyd hefyd yn cynnwys digwyddiad arddangos yng Nghaerdydd ar gyfer masnach a'r wasg, lle gall mynychwyr flasu detholiad o winoedd wrth gymdeithasu â chynhyrchwyr a chyd-selogion gwin.

Peidiwch â cholli allan ar ddathlu Wythnos Gwin Cymru 2025. P'un a ydych chi'n arbenigwr gwin neu'n chwilfrydig am winoedd Cymru, mae rhywbeth at ddant pawb. Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gwin Cymru 2025 ac amserlen y digwyddiadau, ewch i https://welshwineweek.co.uk/.

Share this page

Print this page