Wystrys Brodorol Sir Benfro PGI a Wystrys Cerrig Sir Benfro PGI
Mae Wystrys Brodorol Sir Benfro yn ddanteithfwyd arforol â’u gwreiddiau mewn traddodiad a natur; cynnyrch mwyaf gwerthfawr Aber y Daugleddau, lle mae’r dyfroedd sy’n llawn maetholion yn cyfuno â llif ffres Mynydd Preseli. Wedi’u meithrin trwy ddulliau cynaliadwy a berchir ers cenedlaethau, mae’r wystrys rhain yn datblygu blas neu "merroir" unigryw, sy’n cael ei ddylanwadu gan amgylchfyd arbennig yr aber a threftadaeth canrifoedd o ffermio wystrys.
Mae taith Wystrysen Gynhenid Sir Benfro’n cychwyn gyda hedyn bio-ddiogel, neu wystrys sydd wedi’u tyfu’n rhannol sy’n tarddu o fagwrfeydd dibynnol. Gosodir yr wystrys ifanc rhain mewn bagiau rhwyllog ar drestlau, sy’n cael eu hongian uwchben gwely’r môr i sicrhau’r tyfiant gorau posibl. Yn ystod y cylch tyfu o 3 – 5 mlynedd, mae’r wystrys yn cael eu graddio’n ofalus, a’u hail-fagio er mwyn cynnal crynoder isel, sy’n hyrwyddo tyfiant iachach a chregyn cadarn. Mae cyfraddau goroesi’r wystrys yn uchel, gyda 80% ohonynt yn ffynnu yn ystod y chwe mis cyntaf. Maent yn cael eu casglu â llaw yn ystod llanw isel y gwanwyn, wedyn eu golchi, eu pureiddio os oes angen, a’u pecynnu, gan sicrhau bod pob wystrysen o’r ansawdd gorau.
Mae cymysgedd cymhleth yr aber o ddŵr ffres a dŵr hallt, ar y cyd â daeareg amrywiol a chynefinoedd glaswellt y môr, yn cyfoethogi’r wystrys gyda mwynau a phlancton. O ganlyniad, mae’r "merroir" yn arwain at “flas wmami cymhleth” enwog a “blas osôn cigog” gydag arlliwiau morol a chiwcymbr. Mae blodau ffytoplancton tymhorol yn ychwanegu at flas ac ansawdd yr wystrys, gan gyfrannu at yr olwg arian unigryw a’r ansawdd cadarn.
Mae ffermio wystrys yn Sir Benfro yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif, pan roedd Aber y Daugleddau yn ganolfan hollbwysig ar gyfer pysgodfeydd wystrys brodorol. Heddiw, mae’r ffermwyr yn cyfuno gwybodaeth draddodiadol gydag arferion cynaliadwy, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar yr amgylchedd. Fel dull o Ddyframaethu Adferol, mae ffermio wystrys yn cyfoethogi ansawdd y dŵr, bioamrywiaeth ac iechyd cyffredinol ecosystem yr aber.
Mae cogyddion ac archwaethwyr yn awyddus iawn i gael gafael ar Wystrys Brodorol Sir Benfro, sy’n gynnyrch o’r radd flaenaf gyda’u blas godidog ynghyd a’r dull arbenigol o’u cynhyrchu. Mae eu holrheinadwyedd a’r ymlyniad i safonau amgylcheddol llym yn golygu eu bod yn arwydd o ansawdd, cynaliadwyedd a balchder eu cynefin.
Gyda statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI), mae Wystrys Cerrig Sir Benfro’n cael eu dathlu oherwydd eu tarddiad a’u hansawdd rhagorol, sy’n ymgorffori hanfod treftadaeth arfordirol Cymru. Maent yn berffaith i bobl sy’n caru bwyd môr; maent yn cynnig blas go iawn o flaen yr Iwerydd, gan ddod a phurdeb dyfroedd Sir Benfro i’ch plât.
Mae Aber y Daugleddau, sy’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Sir Benfro Forol yn cynnig amgylchedd ddelfrydol i ffermio wystrys, lle mae’r cymysgedd cymhleth o ddŵr ffres sydd â chyfoeth o fwynion a dŵr môr glân yr Iwerydd yn cyfrannu at nodweddion eithriadol yr wystrys. Mae’r lleoliad unigryw hwn wedi arwain at ddosbarthiad pysgod cregyn Dosbarth A penigamp, sy’n golygu y gellir eu mwynhau’n ddiogel yn syth o’r môr.
Mae’r amgylchedd neilltuol hwn hefyd yn creu "merroir" hollol unigryw – sef y proffil blas sy’n deillio o amgylchfyd yr wystrys. Mae hyn yn cynnwys ffresni hallt gyda blasau ysgafn o giwcymbr, sitrws ac arlliw gwelltog, gan orffen gydag ansawdd mwynol glân. Mae’r cyfuniad hwn o ffactorau’n golygu fod Wystrys Cerrig Sir Benfro’n ddanteithfwyd o’r radd flaenaf sy’n cynnig blas cymhleth, llawn boddhad.
Gwahanieithir Wystrys Cerrig Sir Benfro gan eu cregyn siâp deigryn, dwfn sydd yn aml yn dangos stribedi porffor neu dywyll sy’n deillio o liwiau algaidd, sy’n eu gwneud yn hollol unigryw o safbwynt gweledol. Mae’r dull cynaliadwy hwn o’u tyfu yn cefnogi bioamrywiaeth leol, ac mae’r ymrwymiad i ofal amgylcheddol a chynnyrch uchel ei ansawdd yn cael ei adlewyrchu ym mhob wystrysen.
Cafodd ffermio Wystrys Cerrig Sir Benfro ei gyflwyno yn y 1980au ac mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ers hynny; ar hyn o bryd cynhyrchir bron 200,000 o wystrys bob blwyddyn. Mae’r wystrys yn cael eu hadnabod oherwydd eu blas eithriadol, ac maent yn un o uchafbwyntiau gwyliau wystrys lleol, gyda llawer o gogyddion yn eu defnyddio mewn bwytai ar draws yr ardal.
Wedi’u gweini gyda lemwn neu saws Tabasco, neu eu coginio gyda sbigoglys a bacwn, mae Wystrys Cerrig Sir Benfro yn gynnyrch safonol gwerthfawr, sy’n haeddu eu lle ar unrhyw fwydlen. Mae’r ansawdd cyson a’u tarddiad yn cael eu diogelu dan y label PGI, sy’n dathlu cyfoeth naturiol dyfroedd arfordir Cymru a’u treftadaeth arforol ffrwythlon.