Mae dros 40 o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal ledled Cymru wrth i winllannoedd, selogion gwin ac arweinwyr y diwydiant ddathlu llwyddiant cynyddol diwydiant gwin Cymru.
O deithiau o amgylch gwinllannoedd i sesiynau blasu a digwyddiadau masnach, dangosodd Wythnos Gwin Cymru 2025 yr amrywiaeth, yr ansawdd a'r angerdd y tu ôl i win Cymru. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd cynnydd nodedig ym maint y gwin sy'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru, ynghyd â nifer o winllannoedd yn ennill gwobrau rhyngwladol, wrth i'r diwydiant geisio ehangu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod.
Un o brif uchafbwyntiau’r wythnos oedd digwyddiad blasu a gynhaliwyd yng Nghaerdydd, lle cyflwynodd saith gwinllan – Ystadau Ancre Hill, Gwinllan Dell, Gwinllan Hebron, Gwinllan St Hilary, Gwinoedd Tair Gafr, Gwinllan Velfrey, a Gwinllan White Castle – eu gwinoedd i gynulleidfa o weithwyr proffesiynol y diwydiant, y cyfryngau a phrynwyr. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys detholiad wedi'i guradu o fwydydd crefftus Cymru, gan atgyfnerthu'r cysylltiad cryf rhwng gwin Cymru a bwyd lleol.
Gyda thymor yr haf yn prysur agosáu, mae gwinllannoedd Cymru bellach yn croesawu twristiaid sy'n awyddus i brofi eu cynhyrchion unigryw, eu tirweddau prydferth a'u gwinoedd arobryn.
Roedd yr wythnos yn garreg filltir arwyddocaol i Winllan White Castle, wrth iddi ddatgelu ei gwinllan newydd ar y safle, datblygiad cyffrous i'r cynhyrchydd o Sir Fynwy. Dywedodd Robb Merchant, perchennog Gwinllan White Castle:
“Mae agoriad swyddogol ein gwinllan newydd yn ystod Wythnos Gwin Cymru yn cynrychioli pennod arwyddocaol yn esblygiad Gwinllan White Castle. Dyma ffrwyth llafur blynyddoedd o fuddsoddiad strategol, ymrwymiad i ansawdd a chred ddofn ym mhotensial gwinwyddaeth Cymru.
“Mae'r datblygiad hwn nid yn unig yn gwella ein gallu cynhyrchu, ond mae hefyd yn cryfhau ein gallu i gynnig profiad o drochi llwyr i ymwelwyr. Rydyn ni’n falch o gyfrannu at enw da cynyddol gwin Cymru ac yn edrych ymlaen at groesawu partneriaid masnach, twristiaid a selogion gwin i weld dros eu hunain beth sy'n gwneud ein rhanbarth mor arbennig.”
Mae dros 50 o winllannoedd yn gweithredu ledled Cymru erbyn hyn, ac yn ystod Wythnos Gwin Cymru eleni, bu’r gwinllannoedd o dde Cymru, Gwinllan St Hilary a Gwinoedd Tair Gafr, yn arddangos gwin eu cynhaeaf cyntaf.
Gyda nifer gynyddol o winllannoedd, mae diwydiant gwin Cymru yn dod i'r amlwg fel sector deinamig sy'n datblygu'n gyflym o fewn tirwedd bwyd a diod y DU. O arloesedd yn y winllan i'w gyfraniad at economïau gwledig a thwristiaeth, mae'r diwydiant yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth lunio hunaniaeth Cymru fel cynhyrchydd gwinoedd nodedig o ansawdd uchel.
Canmolodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, gynnydd diweddar y diwydiant, gan ddweud,
“Nid yn unig y mae gwinllannoedd Cymru yn cynhyrchu gwinoedd arobryn, ond maen nhw hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn ein heconomi wledig a'n sector twristiaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi'r diwydiant deinamig hwn trwy fentrau fel Clwstwr Diodydd Bwyd a Diod Cymru, a rhaglenni eraill sydd ar waith i helpu'r diwydiant i barhau i wneud cyfraniad pwysig at yr economi wledig a'i chymunedau.
“Gallwn weld sut mae lleoedd fel Seland Newydd, sydd â hinsawdd a thirwedd debyg i ni, wedi mynd o fod ar raddfa fach i fod yn enwog yn rhyngwladol yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r diwydiant dros y blynyddoedd nesaf i barhau i ddatblygu diwydiant cynaliadwy sy’n adnabyddus am ansawdd ac arloesedd.”
Mae rhagor o wybodaeth am y diwydiant, a ble i brynu gwin Cymreig, ar gael yn welshwineweek.co.uk/cy/wythnos-gwin-cymru/