Heddiw (dydd Mercher), agorodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS, Blas Cymru / Taste Wales 2025, prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod Cymru yn swyddogol, yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC) Cymru, Celtic Manor, Casnewydd.
Mae'r arddangosfa ddeuddydd o hyd yn dwyn ynghyd dros 150 o gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru a thua 300 o brynwyr gwadd o bob cwr o'r byd, gan gynnig llwyfan i'r diwydiant barhau â'i dwf trawiadol ers cynnal y digwyddiad dwyflynyddol cyntaf yn 2017.
Wrth siarad yn yr agoriad, dywedodd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS:
“Mae Blas Cymru / Taste Wales 2025 yn ddathliad o'r creadigrwydd a'r rhagoriaeth sy'n diffinio ein sector bwyd a diod. Mae'r digwyddiad hwn yn dwyn ynghyd y gorau o gynhyrchwyr Cymru, gan arddangos eu harloesedd a'u huchelgais i brynwyr o bob cwr o'r byd.
Fel mae llwyddiant digwyddiadau blaenorol wedi'i ddangos, mae'n fan cychwyn ar gyfer partneriaethau newydd, twf a llwyddiant byd-eang ac rwy'n siŵr na fydd eleni’n wahanol.”
Bydd y mynychwyr yn archwilio mwy na 200 detholiad o gynhyrchion newydd, a fydd yn cael eu cynnwys o fewn arddangosfa ehangach o dros 3,000 o gynhyrchion Cymreig, gan adlewyrchu enw da'r sector am ansawdd, creadigrwydd ac effaith fasnachol.
Yn ystod y ddeuddydd, bydd y digwyddiad yn cynnal rhaglen lawn o gyfarfodydd gyda phrynwyr, arddangosfeydd o gynhyrchion, a chyfleoedd i rwydweithio. Mae uchafbwyntiau'n cynnwys ymweliadau strwythuredig i gogyddion sy'n archwilio cynhyrchion Dynodiad Daearyddol (GI), teithiau astudio gyda Cywain a'r Ganolfan ar gyfer Entrepreneuriaeth Affricanaidd, ac arddangosfeydd gan y Clystyrau Bwyd Môr, Mêl, a Garddwriaeth, yn ogystal â Chymdeithas Gwinllannoedd Cymru.
Bydd cyfle hefyd i'r mynychwyr flasu prydau a baratowyd gan Gymdeithas Goginio Cymru, pleidleisio dros y cynnyrch newydd mwyaf cyffrous, a chysylltu â chyflenwyr yn ystod slotiau cyfarfod pwrpasol a digwyddiadau rhwydweithio gyda'r nos.
Mae'r digwyddiad hefyd yn cynnwys Marchnad y Seren Newydd, lle pwrpasol i gysylltu â chyflenwyr sy'n dod i'r amlwg, ac sy’n cynnig cyfle i brynwyr ddarganfod yr enwau mawr nesaf yn niwydiant bwyd a diod Cymru.
Yn 2024, profodd sector bwyd a diod Cymru gynnydd ers 2023, gyda throsiant yn cynyddu £945m. (10% o £9.3bn i £10.2bn.) [1]. Cynyddodd allforion hefyd yn 2024 o'i gymharu â 2023, gan godi o £813m i £839m, cynnydd o 3% (£26m).
Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad deuddydd mae Dirprwy Brif Weinidog Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, AS, a ddywedodd:
“Mae Blas Cymru / Taste Wales 2025 yn dyst i gynnydd ac uchelgais sector bwyd a diod Cymru.
Mae buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn arloesedd a seilwaith yn helpu ein cynhyrchwyr i ehangu eu cyrhaeddiad, hybu cynaliadwyedd, a chystadlu'n rhyngwladol. Gyda 150 o gyflenwyr, dros 200 detholiad cynnyrch newydd, a mwy na 3,000 o gynhyrchion yn cael eu harddangos, mae'r digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i brofi'r gorau o fwyd a diod Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi'r digwyddiad, ac o helpu ein sector bwyd a diod ffyniannus i fanteisio ar gyfleoedd newydd a chyffrous. Dyma'r gorau o Gymru ar lwyfan y byd!”
Mae cyfres o sefydliadau blaenllaw yn noddi digwyddiad eleni, gan gynnwys Castell Howell Foods, Radnor Hills, Harlech Foodservice, Puffin Produce, Pembrokeshire Creamery, Ferrari’s, Barti, Rachel’s Organic Dairy, SA Brain & Co, Shirgar, Wrexham Lager, Gower Brewery a Tiny Rebel.
Dywedodd Simon Knight, Rheolwr Gyfarwyddwr Radnor Hills, un o brif weithgynhyrchwyr diodydd meddal Cymru,
“Pleser yw cefnogi Blas Cymru / Taste Wales 2025. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i arddangos ansawdd ac amrywiaeth bwyd a diod Cymru i gynulleidfa fyd-eang.
Yn Radnor Hills, rydyn ni’n falch o fod yn rhan o sector sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd, arloesedd a rhagoriaeth. Mae digwyddiadau fel hyn nid yn unig yn tynnu sylw at gryfder ein diwydiant ond hefyd yn meithrin cysylltiadau gwerthfawr sy’n helpu busnesau fel ein un ni i dyfu a ffynnu.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgysylltu â phrynwyr, rhannu ein cynhyrchion arloesol diweddaraf, a pharhau i chwarae ein rhan wrth hyrwyddo cynnyrch Cymru ar lwyfan y byd.”
Wrth edrych ymlaen, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo’r sector gyda digwyddiadau mawr rhyngwladol, gan gynnwys cynhadledd Blas Cymru / Taste Wales ym mis Hydref 2026, a fydd yn arddangos ehangder y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bwyd a diod Cymru, a Chyngres Worldchefs ym mis Mai 2026, lle bydd Cymru'n cael ei chynrychioli ar y llwyfan coginio byd-eang.