Mae rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn lansio adnodd addysgol newydd i helpu disgyblion ysgolion uwchradd i gysylltu'r da byw, y cynnyrch a'r arloesedd sydd i’w weld yn y Ffair Aeaf yn uniongyrchol ag amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa yn y dyfodol.
Mae Pecyn Gweithgareddau Ffair Aeaf yn ganllaw cynhwysfawr a gynlluniwyd i drawsnewid yr arddangosfa amaethyddol flynyddol yn drafodaeth ddiddorol ar yrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith, gan amlygu cwmpas enfawr diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Mae sector Bwyd a Diod Cymru yn un o'r rhai pwysicaf a mwyaf arloesol yn y wlad, gan gyflogi dros 220,000 o bobl. Nod yr adnodd newydd hwn yw pontio'r bwlch rhwng pobl ifanc a'r diwydiant, gan ddangos bod gyrfa mewn bwyd yn mynd ymhell y tu hwnt i ffermio ac arlwyo.
Mae’r Pecyn Gweithgareddau Ffair Aeaf yn cynnig taith strwythuredig o’r sioe i athrawon ysgolion uwchradd ac arweinwyr grwpiau, gan ddarparu awgrymiadau trafodaeth ar gyfer meysydd allweddol fel y Siediau Da Byw, Neuadd y Carcasau, a’r Neuadd Fwyd.
Mae’r canllaw yn annog disgyblion i ddilyn taith cynnyrch Cymru o’r fferm i’r fforc, gan amlygu’r rolau amrywiol sydd eu hangen ymhob cam.
Mae’r canllaw yn symud y tu hwnt i’r arddangosfeydd cynnyrch i ganolbwyntio ar y rolau llai gweladwy ond hanfodol mewn arloesi. Mae’n tynnu sylw at Dechnolegwyr Bwyd - yr arbenigwyr mewn Gwyddor Bwyd sy’n datblygu cynhyrchion newydd ac yn sicrhau diogelwch a maeth bwyd. Mae’n manylu ar yr angen i Beirianwyr ddylunio a chynnal y peiriannau soffistigedig a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwyd, ac yn cyfeirio at rolau creadigol a masnachol fel Dylunwyr Graffig, Cydlynwyr Marchnata, a Thechnegwyr Pecynnu - gan ddangos bod angen ystod eang o dalentau ar y diwydiant; gwyddonol, creadigol, ymarferol, a meddwl busnes.
Dywedodd Nia Griffith, Rheolwr Ymgysylltu rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru:
"Mae'r Ffair Aeaf yn arddangosfa ryfeddol o ragoriaeth Cymru, ond mae hefyd yn fwrdd swyddi byw. Mae'r pecyn gweithgareddau hwn yn hanfodol ar gyfer dangos i ddisgyblion uwchradd fod y bwyd mae nhw'n ei fwynhau a'r cynhyrchion mae nhw'n eu gweld yn ganlyniad gwaith tîm, technoleg a gwyddoniaeth anhygoel. Mae diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn gweiddi am bobl ifanc dalentog, ac rydym am eu helpu i weld yn union ble gall eu sgiliau - boed mewn mathemateg, gwyddoniaeth, creadigrwydd neu beirianneg, arwain at yrfa foddhaol."
Mae'r pecyn yn gorffen gyda Chamau Nesaf a Rhestr Adnoddau, gan gyfeirio athrawon at sefydliadau gwerthfawr fel rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru a'r fenter Gyrfaoedd Blasus / Tasty Careers ar gyfer gweithgareddau dilynol pellach.
Yn ogystal â lansio'r Pecyn Gweithgareddau newydd sbon ar ddiwrnod cyntaf y Ffair Aeaf, mae tîm rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru yn falch o gydweithio â Hybu Cig Cymru (HCC), i gynnal arddangosiad gigyddiaeth fyw ar eu stondin ar yr ail ddiwrnod. Mae'r arddangosfa ymarferol hon wedi'i chynllunio i dynnu sylw at y llwybrau gyrfa amrywiol a medrus sydd ar gael o fewn y diwydiant bwyd a diod, gan brofi bod llawer mwy iddo nag sy'n amlwg ar yr olwg gyntaf.
Dywedodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol y Defnyddiwr, Hybu Cig Cymru (HCC):
"Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru ar yr arddangosiad gigyddiaeth hwn. Mae'n gyfle gwych i arddangos y sgil a'r cywirdeb sy'n gysylltiedig â'r grefft, ac yn bwysicach fyth, i dynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa anhygoel sy'n bodoli o fewn ein diwydiant bwyd a diod bywiog."