Mae Blas Cymru / Taste Wales 2025 wedi cyflawni canlyniadau eithriadol i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, gyda busnesau'n adrodd am werthiannau a chyfleoedd busnes gwerth dros £45 miliwn wedi’u cynhyrchu yn ystod y digwyddiad.
Wedi'i threfnu gan Lywodraeth Cymru, daeth yr arddangosfa ddwyflynyddol â mwy na 150 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru ynghyd, gan gyflwyno dros 200 detholiad newydd o gynhyrchion â 3,000 o gynhyrchion newydd. Bu’r digwyddiad yn llwyfan ar gyfer arloesi a thwf, gan atgyfnerthu enw da Cymru am ansawdd ac amrywiaeth mewn bwyd a diod.
Denodd Blas Cymru / Taste Wales 2025 dros 300 o brynwyr o’r DU a thu hwnt, gan gynnwys manwerthwyr blaenllaw’r DU a gweithredwyr gwasanaethau bwyd, ochr yn ochr â phrynwyr o farchnadoedd byd-eang allweddol fel y Dwyrain Canol, Dwyrain Asia, Gogledd America ac Ewrop, gan gynnwys Sgandinafia.
Cynhaliwyd mwy na 2,700 o gyfarfodydd masnach rhwng prynwyr a chynhyrchwyr mewn fformat rhwydweithio cyflym dwys a deinamig, gan greu cysylltiadau masnach newydd ac ehangu cyrhaeddiad bwyd a diod Cymru ar draws marchnadoedd domestig a rhyngwladol.
Rhagwelir bod y cysylltiadau masnach newydd eisoes wedi arwain at dros £45 miliwn mewn gwerthiannau, gan ehangu dosbarthiad bwyd a diod Cymru yn y DU ac yn rhyngwladol.
Canmolodd prynwyr raddfa, ansawdd ac amrywiaeth cynhyrchion Cymru, gan dynnu sylw at y cydweithio cryf o fewn y sector fel cryfder unigryw. Adroddodd cynhyrchwyr Cymru hefyd am gyfarfodydd hynod gynhyrchiol, cyfleoedd rhwydweithio rhagorol, a chysylltiadau masnach newydd ystyrlon.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS,
“Mae Blas Cymru / Taste Wales yn arddangosfa bwerus o'r uchelgais a'r arloesedd sy'n gyrru sector bwyd a diod Cymru.
Mae gweld dros £45 miliwn mewn cyfleoedd busnes yn gamp anhygoel ac yn dangos cryfder ein cynhyrchwyr a'r awydd am fwyd a diod Cymru yn fyd-eang. Rydyn ni’n falch o gefnogi ein sector bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru a byddwn yn parhau i'w helpu i gystadlu ar lwyfan y byd.”
Cafodd mentrau cynaliadwyedd dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â'r sector eu hamlygu yn yr arddangosfeydd cynhyrchion ac roedd gwybodaeth ar gael i brynwyr a chynhyrchwyr. Cafodd Cynlluniau Lleihau Carbon a ddatblygwyd gan ystod eang o'r busnesau bwyd a diod a gymerodd ran eu cynnwys yn yr arddangosfeydd cynhyrchion ochr yn ochr â ble roedd busnesau wedi ymgymryd â Hyfforddiant Addasu i’r Hinsawdd a Gwydnwch neu wedi cyflawni achrediad B Corp.
Roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu arloesedd gyda'r Wobr Cynnyrch Newydd, a aeth i Flavour Moments, busnes bwyd newydd o’r gogledd sy'n adnabyddus am ei Berlau Caws Gafr.
Dechreuodd Flavour Moments fasnachu ddechrau 2025 ar ôl blynyddoedd o waith y tu ôl i'r llenni gan y sylfaenydd, Philippa, ac mae wedi tyfu i fod yn frand sy'n barod i'w fanwerthu, sydd bellach yn cael ei stocio mewn delis, siopau fferm ac yn fwyaf diweddar, Selfridges. Mae eu detholiad arobryn yn cynnwys Perlau Caws Gafr wedi'u llenwi'n ysgafn â ffigys, mêl a gellyg, wedi'u cynllunio i gyfoethogi popeth o saladau a pizzas i fyrddau caws, canapés a phicnic. Yn fwy diweddar, lansiwyd blasau llugaeron, tryffl a mêl ar gyfer y Nadolig.
Dywedodd Philippa Galway, Rheolwr Gyfarwyddwr Flavour Moments:
“Mae ennill y Wobr Cynnyrch Newydd yn wir anrhydedd i ni, yn enwedig gan fod y safon mor uchel, sy’n dangos ansawdd y bwyd a’r diod sydd ar gael yng Nghymru. Mae ein Perlau Caws Gafr wedi cael derbyniad anhygoel o dda, ac maen nhw bellach ar gael yn Selfridges a nifer o leoedd eraill.
Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i derbyn gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn rhyfeddol, gan gynnwys mentora gan Cywain, cefnogaeth dechnegol gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn Llangefni a Rhaglen HELIX, hyd at welliannau effeithlonrwydd trwy weithio gydag AMRC Cymru. Mae’r mentrau hyn wedi bod yn amhrisiadwy, ac ni fyddai llawer o fusnesau bwyd a diod newydd yma heddiw hebddyn nhw.”
Wrth edrych i’r dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo’r sector i sicrhau twf trwy raglenni fel Rhaglen Datblygu Masnach Bwyd a Diod Cymru a fydd yn parhau i feithrin perthnasoedd â’r prynwyr a’r Rhaglen Mewnwelediad sy’n helpu cwmnïau bwyd a diod i weithio’n effeithiol gyda’u partneriaid masnach a rhaglen digwyddiadau rhyngwladol mawr fel Gulfood yn Dubai ym mis Chwefror 2026 a Chyngres Worldchefs ym mis Mai 2026, lle bydd Cymru’n cael ei chynrychioli ar y llwyfan coginio byd-eang.