Y tîm buddugol yn y Gorllewin sef Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd
Y tîm buddugol yn y Gorllewin sef Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd

 

Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026, cystadleuaeth gyffrous a gynlluniwyd i sbarduno creadigrwydd a gwaith tîm ymhlith disgyblion ledled Cymru, wedi arddangos unwaith eto dalent ac arloesedd anhygoel pobl ifanc yn y sector bwyd a diod.

Nod Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus, a gyflwynir gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Bwyd a Diod (NSAFD) Cymru mewn partneriaeth â rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a Gyrfaoedd Cymru, yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa cyffrous o fewn diwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru. Mae cefnogwyr Her Ysgolion eleni yn cynnwys Kepak, Dunbia, Leprino a Castell Howell.

Gwahoddodd her eleni gyfranogwyr i weithio mewn timau i ddylunio cynnyrch bwyd neu ddiod iach newydd gan ddefnyddio cymaint o gynnyrch lleol Cymreig â phosibl. Roedd y briff yn gofyn i fyfyrwyr greu cynnyrch sy'n darparu manteision iechyd clir, sy'n gynaliadwy, ac yn fasnachol hyfyw. Datblygodd pob tîm enw brand gwreiddiol, logo, a slogan hefyd, gan gyflwyno eu syniadau mewn pecyn 500g/ml i banel o feirniaid arbenigol.

Denodd Gyrfaoedd Blasus 2026, 28 o ymgeiswyr a 168 o fyfyrwyr eleni, gan gyfrannu at gyfanswm o 121 o ymgeiswyr, gyda dros 4,900 o ddisgyblion yn cymryd rhan o ysgolion ledled y wlad ers 2018.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:

“Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd rownd derfynol Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026. Maent wedi dangos creadigrwydd, gwaith tîm ac uchelgais anhygoel wrth ddatblygu cynhyrchion iach a chynaliadwy gan ddefnyddio’r cynnyrch gorau o Gymru. Mae cystadlaethau fel hyn - a gyflwynir gan yr Academi Sgiliau Genedlaethol gyda chefnogaeth rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, Gyrfaoedd Cymru a’n partneriaid yn y diwydiant - yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ifanc i ddarganfod y cyfleoedd gyrfa cyffrous ar draws sector bwyd a diod ffyniannus Cymru.

Rwy’n gobeithio y byddant yn cario’r teimlad hwn gyda nhw wrth iddynt wneud dewisiadau cyffrous am eu gyrfa yn y dyfodol, ac ystyried dod â’u talentau i ddiwydiant bwyd a diod bywiog Cymru.”

Dywedodd Louise Cairns, Prif Swyddog Gweithredol NSAFD/Gyrfaoedd Blasus:

“Mae Her Ysgolion Gyrfaoedd Blasus 2026 wedi bod yn llwyddiant anhygoel. Rwyf wedi cael fy ysbrydoli’n fawr gan y creadigrwydd, yr angerdd, a’r proffesiynoldeb a ddangoswyd gan bob tîm. Mae’r safon eleni wedi bod yn eithriadol, ac mae’n fraint gweld cymaint o bobl ifanc yn arddangos y dalent a’r arloesedd a fydd yn llunio dyfodol ein diwydiant.”

Ychwanegodd Kate Rees, Rheolwr Rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru  Llywodraeth Cymru:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi Her Ysgol Gyrfaoedd Blasus 2026. Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn ymgysylltu â'r diwydiant bwyd a diod ac yn dangos cymaint o greadigrwydd a brwdfrydedd. Mae mentrau fel hyn yn hanfodol ar gyfer ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf ac arddangos y cyfleoedd gyrfa cyffrous sydd gan ein sector i'w cynnig.”

Mae'r gystadleuaeth wedi bod yn rhedeg ers 2018, gyda rowndiau terfynol eleni yn cael eu cynnal yng Ngogledd, De a Gorllewin Cymru.

Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr rhanbarthol!

Gogledd Cymru - Enillydd - Ysgol Glan y Môr (Bowlen Burrito)

De Cymru - Enillydd - Ysgol Gatholig Carlo Acutis Fendigaid (Myffins Cennin a Chaws)

Gorllewin Cymru - Enillydd - Ysgol Gyfun Gatholig Sant Ioan Llwyd (Bean Bites)

Share this page

Print this page