Aber light Project - Rooted in Wales

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch genedlaethol i helpu i ddod â phob rhan o'i system fwyd ynghyd, o'r ffermwyr, y tyfwyr a'r pysgotwyr sy'n cynhyrchu bwyd o dir a dyfroedd Cymru i'r gweithgynhyrchwyr, y manwerthwyr, y cymunedau a'r teuluoedd sy'n ei brynu, ei goginio a'i rannu.

Mae 'Gwreiddiau Cymreig' yn alwad i weithredu ar y cyd: cydnabyddiaeth o'r berthynas sydd gan Gymru â'i system fwyd a chreu newid parhaol lle mae gan bawb ran i'w chwarae. Mae'r ymgyrch yn defnyddio ymagwedd system gyfan tuag at fwyd yng Nghymru, gan symud y tu hwnt i ddewisiadau unigol er mwyn amlygu sut mae gwahanol rannau o'r system fwyd yn cysylltu ac yn atgyfnerthu ei gilydd. Mae 'Gwreiddiau Cymreig' yn cefnogi ac yn cysylltu:

  • Ein ffermwyr, tyfwyr a physgotwyr Cymreig yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel

  • Ein gweithgynhyrchwyr a'n busnesau bwyd Cymreig yn cyrchu mwy o gynhwysion Cymreig

  • Ein manwerthwyr a'n siopwyr yn dewis bwyd lleol a thymhorol

  • Ein cymunedau'n dod ynghyd i dyfu, rhannu a dathlu bwyd lleol, gan gryfhau diogeledd bwyd

  • Ein galwad ar y cyd i weithredu i leihau gwastraff bwyd, deunydd pacio diangen a chryfhau economïau lleol. 

Drwy ddod â'r rhannau hyn at ei gilydd, mae'r ymgyrch yn atgyfnerthu sut mae polisi bwyd presennol Cymru yn cefnogi lles pobl, yn cryfhau cymunedau ac yn cefnogi'r amgylchedd – gan sicrhau bod cynnydd mewn un maes yn cefnogi cynnydd mewn rhai eraill.

Wrth groesawu'r ymgyrch, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS

“Mae dewis bwyd â gwreiddiau Cymreig yn gam pwerus y gallwn i gyd ei gymryd i helpu i greu system fwyd fwy diogel i'n cymunedau. Drwy ddewis cynnyrch lleol, a chefnogi ein ffermwyr a'n cynhyrchwyr bwyd, rydyn ni’n helpu i chwarae ein rhan wrth adeiladu system fwyd decach ac iachach.

Does dim rhaid i bobl newid popeth ar unwaith, ond pe bai pawb yn dechrau trwy wneud rhai newidiadau, bydd yn creu effaith fawr ar Gymru a'i chymunedau.”

Mae'r ymgyrch yn adlewyrchu ac yn dwyn ynghyd gamau gweithredu presennol ledled Cymru, gan gynnwys gwaith Synnwyr Bwyd Cymru a'r 22 Partneriaeth Bwyd Lleol sy'n gweithredu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae'r partneriaethau hyn yn chwarae rhan ganolog wrth gyflawni Strategaeth Bwyd Cymunedol Llywodraeth Cymru; yn dod â chymunedau, sefydliadau a busnesau ynghyd o amgylch bwyd ac yn dangos gwerth dulliau cydlynol a dulliau dan arweiniad y gymuned.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu gwariant y sector cyhoeddus ar fwyd a chyflenwyr Cymru o leiaf 50% erbyn 2030, ac mae 'Gwreiddiau Cymreig' yn cefnogi ac yn ehangu'r uchelgais bresennol hon.

 

Torfaen Food Summit and Cardiff light project.

 

Cafodd yr uchelgais honno ei gwireddu yn Uwchgynhadledd Bwyd Torfaen, a gynhaliwyd at Fferm Gymunedol Greenmeadow yng Nghwmbrân, lleoliad sy’n ymgorffori popeth y mae'r ymgyrch yn ei gynrychioli. Mae Partneriaeth Bwyd Torfaen, a sefydlwyd yn 2022, wedi datblygu partneriaethau bwyd lleol cynaliadwy ar gyfer ei thrigolion. Mae'n cyflawni prosiectau sy'n cwmpasu amaethyddiaeth werdd, cynlluniau tyfu cymunedol, cefnogaeth grant ar gyfer gweithredu cynaliadwy, a chysylltiadau â gwasanaethau lles i'r rhai sydd fwyaf mewn angen.

Ymhlith y rhai a fynychodd yr uwchgynhadledd roedd disgyblion o ffederasiwn o Ysgolion Cynradd Cymunedol Blenheim Road a Coed Eva, a gymerodd ran mewn arddangosiadau tyfu a choginio. I'r ysgolion, mae 'Gwreiddiau Cymreig' yn berthnasol ymhell y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.

Rhan allweddol o'r ymgyrch a ffocws Llywodraeth Cymru yw cefnogi busnesau yng Nghymru i gyrchu mwy o gynhwysion Cymreig ac ychwanegu mwy o werth at bob rhan o'r gadwyn gyflenwi.

Yn hyn o beth mae'r cyfanwerthwr bwyd a diod o Gymru, Castell Howell yn chwarae rhan flaenllaw, gyda dros 900 o weithwyr, 6 depo a fflyd o dros 200 o gerbydau yn dosbarthu cynnyrch Cymreig ledled Cymru.

Mae menter Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, sy’n cael ei darparu gan Synnwyr Bwyd Cymru a’i chefnogi gan Gastell Howell, wedi tyfu i gwmpasu 12 awdurdod lleol ledled Cymru ers 2022 ac mae wedi darparu dros 1 filiwn dogn o lysiau organig o ffynonellau lleol ar gyfer ysgolion Cymru.

I Edward Morgan, Rheolwr Grŵp Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu Castell Howell

Rydyn ni’n gweld Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion fel ffordd o helpu i wella'r seilwaith presennol o fewn y diwydiant garddwriaethol yng Nghymru, trwy ddod o hyd i lwybr hyfyw i'r farchnad ar gyfer llysiau sy’n cael eu tyfu’n lleol.

Fel cwmni, rydyn ni’n cyflenwi'r rhan fwyaf o'r cynhwysion ar gyfer tua 850,000 o brydau ysgol yr wythnos, felly rydyn ni’n gwbl ymwybodol o'r newidiadau sydd eu hangen i safonau maethol, lle bydd angen cynyddol i lysiau fod yn rhan graidd o'r prydau bwyd. Mae hyn yn bendant yn cynnig cyfle ar gyfer twf.

Mae amcanion y prosiect yn bellgyrhaeddol. Mae angen help a chefnogaeth arnom i ysgogi mwy o weithgarwch garddwriaethol yng Nghymru. Ond yn yr un modd, mae angen i ni annog plant, a'u haddysgu, i fwyta mwy o lysiau. Rydyn ni’n ffodus bod arlwywyr awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r fenter yn llawn, a gobeithio y gwelwn effeithiau cryf iawn y gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.”

Mae ‘Gwreiddiau Cymreig’ yn gwahodd pobl, busnesau a chymunedau i chwarae eu rhan wrth lunio system fwyd decach a mwy gwydn i Gymru.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar gael yn https://food-drink.wales/cy/hafan-defnyddwyr/gwreiddiau-cymreig/ 

Share this page

Print this page