Mae Cymru ar fin serennu ar fap coginio’r byd dros y dyddiau nesaf wrth iddi groesawu Cyngres ac Arddangosfa nodedig Worldchefs 2026, y tro cyntaf yn ei hanes 98 mlynedd i'r digwyddiad gael ei gynnal yn unrhyw le yn y DU.
Fe’i cynhelir yn ICC Cymru yng Nghasnewydd dros bedwar diwrnod (16-19 Mai), a bydd y digwyddiad dwyflynyddol yn dod â 1,000 o gogyddion, arloeswyr bwyd a gweithwyr proffesiynol lletygarwch o 110 o wledydd ynghyd.
Mewn partneriaeth â Chymdeithas Goginio Cymru, mae'r digwyddiad yn cynnig llwyfan pwysig i arddangos cogyddion talentog, bwyd a diod o ansawdd uchel a threftadaeth goginio gyfoethog Cymru i gynulleidfa ryngwladol.
Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, Llywydd Cymdeithas Goginio Cymru:
“Mae Cyngres ac Arddangosfa Worldchefs 2026 yn addo rhaglen wirioneddol wych, gan ddod â rhai o’r cogyddion a’r arweinwyr agweddau mwyaf dylanwadol o bob cwr o’r byd ynghyd. O siaradwyr ac arddangosiadau o’r radd flaenaf i gyffro Rowndiau Terfynol Her y Cogyddion Byd-eang, bydd yn ddigwyddiad bythgofiadwy.
“Mae cynnal y digwyddiad yng Nghymru wedi bod yn uchelgais ers tro byd i mi ac i Gymdeithas Goginio Cymru, ac mae’n wych gweld y blynyddoedd o waith caled yn dwyn ffrwyth o’r diwedd. Rydyn ni’n mawr obeithio y gall y digwyddiad adael gwaddol cryf i gogyddion Cymru, a’r diwydiant yn fwy cyffredinol, i adeiladu arno yn y dyfodol, a dangos i’r byd pam mae ein diwydiant bwyd a diod yn perthyn ar lwyfan byd-eang.”
Thema digwyddiad eleni yw ‘Porfa, Angerdd, Plât’, sy’n adlewyrchu taith bwyd Cymru o’r fferm i’r fforc – gan gysylltu tir, pobl a chynnyrch, ac amlygu ymrwymiad Cymru i gynhyrchu bwyd cynaliadwy.
Mae hunaniaeth bwyd Cymru wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ei thirwedd, gyda chyfoeth o gynhyrchion premiwm yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol gynyddol. O gynhyrchion Dynodiad Daearyddol gwarchodedig fel Cig Oen Cymru a Chaerffili Traddodiadol Cymru, hyd at ei gwinoedd arobryn a’i jins unigryw, mae gan Gymru stori rymus i’w hadrodd.
Bydd y Gyngres yn cynnwys rhaglen ryngwladol o siaradwyr gwadd, arddangosiadau, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio, ac yn cynnwys cogyddion ac arweinwyr y diwydiant o fri rhyngwladol gan gynnwys Marco Pierre White, Siân Wyn Owen a Tom Phillips. Bydd sesiynau’n trafod heriau byd-eang allweddol fel cynaliadwyedd, bwydlenni sy’n ymwybodol o’r hinsawdd a dyfodol bwyd.
Ochr yn ochr â’r brif raglen, bydd expo rhyngwladol yn arddangos cynhyrchion, cynhwysion a thechnolegau arloesol, gan gynnig cyfleoedd gwerthfawr i gynhyrchwyr gysylltu â phrynwyr byd-eang ac arweinwyr y diwydiant.
Bydd rhaglen Cogyddion Ifanc bwrpasol hefyd yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent goginio, gan gynnig mentora, dosbarthiadau meistr a chyfleoedd i gysylltu ag arweinwyr byd-eang y diwydiant.
Un o’r prif uchafbwyntiau fydd Rownd Derfynol Her y Cogyddion Byd-eang — un o'r cystadlaethau mwyaf cyffrous yn y calendr coginio rhyngwladol. Mae pedwar categori yn y rowndiau terfynol: Cogydd Byd-eang, Crwst, Figan a Chogydd Ifanc. Bydd cynrychiolaeth gref o Gymru, gyda phedwar cogydd o Gymru yn cystadlu yn y rowndiau terfynol, sy’n dangos dyfnder y dalent o fewn sîn goginio'r genedl. Ychwanegodd Arwyn Watkins,
“Mae cael pedwar cogydd o Gymru yn cystadlu yn y rowndiau terfynol yn gamp wych ac yn destun gwir falchder cenedlaethol. Mae'n tanlinellu cryfder ein talent coginio ac yn profi y gall ein sector lletygarwch gystadlu ar lwyfan rhyngwladol. Fy ngobaith yw y gall y digwyddiad helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o dalent goginio i symud ein sîn fwyd ymlaen a pharhau i arloesi a dangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.”
Mae'r digwyddiad hefyd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i gynhyrchwyr Cymru gysylltu â phrynwyr a dylanwadwyr rhyngwladol, ar adeg pan fo'r galw am fwyd dilys, cynaliadwy ac o ansawdd uchel yn parhau i dyfu. Gyda gwerth allforion bwyd a diod Cymru wedi cynyddu 47% ers 2019, mae Cymru mewn sefyllfa dda i adeiladu ar y momentwm hwn a chryfhau ei henw da rhyngwladol ymhellach.
Bydd nifer o gynhyrchwyr Cymru yn arddangos eu cynnyrch fel rhan o'r arddangosfa ryngwladol, gan gynnwys The Rogue Welsh Cake Company. Dywedodd y sylfaenydd Joe Granville:
“Mae bod yn rhan o Gyngres ac Arddangosfa Worldchefs 2026 yn foment enfawr i ni ac mae’n bleser cymryd rhan. Fel cynhyrchydd o Gasnewydd, mae'n gyfle gwych i arddangos ein pice ar y maen i gynulleidfa wirioneddol fyd-eang a thynnu sylw at ansawdd cynhwysion Cymru. Rydyn ni’n gwneud popeth â llaw gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau, ac rydyn ni’n falch o gynrychioli fersiwn fodern o draddodiad Cymreig annwyl ar lwyfan rhyngwladol.”