Mae Clwstwr Defaid Llaeth newydd wedi'i lansio yn Sioe Frenhinol Cymru, gan ddod â ffermwyr, proseswyr, manwerthwyr, y byd academaidd a rhanddeiliaid y diwydiant ynghyd i gefnogi datblygiad sector llaeth defaid Cymru.
Mae'r lansiad yn nodi cam nesaf y gwaith o sefydlu diwydiant cynaliadwy a hyfyw yn fasnachol yng Nghymru, gan adeiladu ar ymchwil y farchnad a datblygu'r gadwyn gyflenwi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nododd y gwaith hwn gyfleoedd sylweddol ar gyfer twf, wedi'u cefnogi gan alw byd-eang cynyddol am gynhyrchion llaeth defaid.
Sefydlwyd Clwstwr Defaid Llaeth Cymru Bwyd a Diod Cymru i annog cydweithio ar draws y gadwyn gyflenwi, hwyluso cyfnewid gwybodaeth, cryfhau hyder y farchnad a darparu dull cydlynol o ddatblygu'r sector. Bydd ei weithgareddau'n cynnwys ymgysylltu â chynhyrchwyr, datblygu llwybrau masnachol a helpu i greu'r amodau sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu'r sector yn y tymor hir.
Wrth groesawu lansiad Clwstwr Defaid Llaeth Cymru, dywedodd Llŷr Gruffydd AS, Gweinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd:
"Mae lansiad Clwstwr Defaid Llaeth Cymru Bwyd a Diod Cymru yn gam pwysig wrth ddatblygu cyfle newydd ar gyfer amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd Cymru.
Mae ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y potensial sylweddol ar gyfer defaid llaeth yng Nghymru. Ynghyd â galw cynyddol y farchnad a buddsoddiad mewn seilwaith strategol fel y Llaethdy Llaeth Defaid yng Nglynllifon, mae sylfaen gref i dyfu'r sector arni.
Bydd y clwstwr yn chwarae rhan bwysig wrth ddod ag arbenigedd o bob rhan o'r gadwyn gyflenwi ynghyd a chefnogi datblygiad diwydiant gwydn, arloesol a chynaliadwy yn fasnachol."
Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid gan gynnwys Coleg Glynllifon, sy'n datblygu Llaethdy Llaeth Defaid a chyfleuster arddangos pwrpasol, a Cyswllt Ffermio, bydd y clwstwr yn cefnogi ffermwyr a busnesau bwyd sy'n ceisio archwilio cyfleoedd o fewn y sector.
Dywedodd James Holloway, Arweinydd Clwstwr Defaid Llaeth Bwyd a Diod Cymru: "Mae sefydlu'r clwstwr yn adeiladu ar sawl blwyddyn o ymchwil, ymgysylltu â'r diwydiant a gweithio mewn partneriaeth gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
"Tynnodd y gwaith ymchwil sylw at botensial cryf ar gyfer defaid llaeth yng Nghymru, ynghyd â lefelau calonogol o ddiddordeb gan gynhyrchwyr a'r gadwyn gyflenwi ehangach.
Bydd y clwstwr yn cynnig llwyfan ar gyfer cydweithio, gan alluogi rhanddeiliaid i nodi cyfleoedd, mynd i'r afael â heriau a chefnogi datblygiad diwydiant llaeth defaid llwyddiannus yng Nghymru."
Mae'r lansiad wedi cael ei groesawu gan gynhyrchwyr sydd eisoes yn gweithio gyda llaeth defaid ac yn archwilio ei botensial masnachol.
Dywedodd Carwyn Adams, Rheolwr Gyfarwyddwr Caws Cenarth:
"Yn Caws Cenarth, rydyn ni wedi gweld yn uniongyrchol y cyfleoedd y gall llaeth defaid eu cynnig trwy gynhyrchion fel ein caws Black Sheep, sydd wedi helpu i arddangos rhinweddau unigryw llaeth defaid i gynulleidfa ehangach o ddefnyddwyr.
Mae galw cynyddol am gynhyrchion llaeth premiwm sydd â tharddiad cryf a chymwysterau ansawdd, ac mae Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i'r cyfle hwn mewn marchnad sy’n tyfu.
Mae sefydlu'r clwstwr yn gyfle pwysig i ddod â chynhyrchwyr, proseswyr a phartneriaid y diwydiant ynghyd, gan helpu i gryfhau'r gadwyn gyflenwi a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchion llaeth defaid Cymru."
Gyda thraddodiad ffermio defaid cryf, amodau hinsawdd ffafriol a'r arbenigedd sydd ei angen i ddatblygu cynhyrchion llaeth premiwm, mae'r clwstwr yn gam sylweddol tuag at sefydlu Cymru fel cynhyrchydd cydnabyddedig o fewn y farchnad hon sy'n ehangu.