Mae Heler Foods wedi buddsoddi mewn datblygu arweinyddiaeth yn ei gyfleuster pecynnu ym Minffordd, Gogledd Cymru drwy raglen hyfforddi bwrpasol a ddatblygwyd gyda rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai.
Gan gyflogi tua 250 o bobl a chyflenwi cwsmeriaid ledled y DU ac yn rhyngwladol, nododd Heler Foods yr angen i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a rheoli ymhellach yn dilyn diagnostig sgiliau gweithlu. Er bod llawer o weithwyr wedi symud ymlaen drwy ddyrchafiad mewnol, roedd angen cefnogaeth ychwanegol i sicrhau ymddygiadau arweinyddiaeth cyson, cyfathrebu effeithiol ac aliniad sefydliadol cryfach.
Mewn ymateb, datblygwyd a chyflwynwyd rhaglen hyfforddi 'Cymryd Perchnogaeth' wedi'i theilwra gan dîm Busnes@LlandrilloMenai. Canolbwyntiodd y rhaglen ar feysydd allweddol gan gynnwys cyflawni newid llwyddiannus, gwella busnes, adeiladu diwylliant hyfforddi, a gwella sgiliau cyfathrebu.
Dywedodd Sarah Griffith, Cyfarwyddwr Pobl a Thrawsnewid yn Heler Foods:
"Mae datblygu arweinwyr gwych yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn eu gwneud fel busnes. Mae arweinyddiaeth gref yn creu timau ymroddgar, yn gyrru gwelliant parhaus ac yn ein helpu i adeiladu diwylliant lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i gymryd perchnogaeth a rhoi o’u gorau bob dydd. Mae'r rhaglen hon yn gam pwysig wrth gefnogi ein twf yn y dyfodol a sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu talent yn fewnol."
Wedi'i gyflwyno i'r uwch dîm arweinyddiaeth i ddechrau, mae'r hyfforddiant bellach yn cael ei raeadru ar draws y strwythur rheoli ehangach, gydag arweinwyr yn hyfforddi a mentora eu timau'n weithredol i ymgorffori dysgu ledled y sefydliad.
Dywedodd Mark Learmonth, Rheolwr Maes Rhaglen ar gyfer Rhaglenni Rheoli a Phroffesiynol yng Ngrŵp Llandrillo Menai:
"Mae wedi bod yn bleser gweithio mewn partneriaeth â Heler Foods i gynllunio a chyflwyno rhaglen arweinyddiaeth bwrpasol sy'n adlewyrchu blaenoriaethau strategol ac anghenion gweithredol y sefydliad. Drwy gyfuno dulliau micro-ddysgu ymarferol â ffocws cryf ar berchnogaeth, atebolrwydd a hyfforddi, mae'r rhaglen yn helpu arweinwyr ar bob lefel i ddatblygu'r hyder, yr ymddygiadau a'r sgiliau sydd eu hangen i yrru gwelliant cynaliadwy, cryfhau cyfathrebu a chefnogi twf busnes hirdymor."
Mae arwyddion cynnar yn dangos newid sylweddol mewn hyder arweinyddiaeth, cysondeb ac atebolrwydd, ochr yn ochr â gwelliannau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau. Mae'r rhaglen hefyd yn helpu i feithrin diwylliant hyfforddi cryfach, gan annog mwy o berchnogaeth ar lefel adrannol a lleihau dibyniaeth ar uwch-swyddogion.
Mae'r gwelliannau hyn eisoes yn cefnogi cynhyrchiant, ymroddiad gweithwyr a pherfformiad gweithredol, wrth greu llwybrau dilyniant cliriach ar gyfer arweinwyr presennol a darpar arweinwyr o fewn y busnes.
Wrth edrych ymlaen, mae Heler Foods yn disgwyl i'r rhaglen ddarparu buddion hirdymor gan gynnwys gwell gwydnwch sefydliadol, cynllunio olyniaeth gwell a thwf busnes cynaliadwy.
Ychwanegodd Enlli Roberts, Rheolwr Datblygu'r Gweithlu, rhaglen Sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru:
“Mae cefnogi busnesau fel Heler Foods i fuddsoddi yn eu pobl yn hanfodol i adeiladu sector bwyd a diod gwydn a pharod ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Drwy nodi bylchau sgiliau a gweithio ar y cyd â darparwyr hyfforddiant, mae'r rhaglen hon yn helpu i gryfhau gallu arweinyddiaeth, gwella cynhyrchiant a chreu llwybrau dilyniant clir ar gyfer y gweithlu.”
Darparodd rhaglen sgiliau Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru, gyllid o 50% tuag at gost y cwrs hyfforddi hwn, yn dilyn diagnostig sgiliau gyda Heler Foods i helpu i nodi eu hanghenion hyfforddi. Mae'r gefnogaeth hon ar gael i fusnesau o fewn y sector cynhyrchu a gweithgynhyrchu bwyd a diod. Am ragor o wybodaeth, ewch i SgiliauBwydDiod.Cymru